MAE adeilad rheilffordd hanesyddol a gafodd ei adnewyddu gyda chymorth Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol.
Yn ddiweddar mae Network Rail, sy’n berchen ar yr adeilad yng Ngorsaf Pantyffynnon, wedi cwblhau gwaith adnewyddu helaeth sydd wedi trawsnewid yr adeilad.
Roedd y prosiect yn bosibl oherwydd cymorth Tîm Treftadaeth Adeiledig Sir Gaerfyrddin ac arian grant sylweddol gan yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Rheilffyrdd.
Mae’r adeilad bellach wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Treftadaeth Rheilffyrdd Cenedlaethol ym mis Rhagfyr. Mae’r gwobrau’n cydnabod ac yn gwobrwyo gwaith sy’n adnewyddu, yn cadw ac yn ail-ddefnyddio ein hisadeiledd rheilffyrdd hanesyddol yn y ffyrdd gorau posibl er budd y cyhoedd.
Meddai Darren McKenna, Peiriannydd Asedau Network Rail: “Mae adeilad yr orsaf yn enghraifft brin o ‘chalet Brunel’ a oedd yn ddyluniad safonol gan Isambard Kingdom Brunel, y peiriannydd rheilffyrdd enwog.”
Mae Adeilad yr Orsaf a’r caban signalau’n adeiladau rhestredig Gradd 2. Mae’r Rhestr yn nodi ac yn dathlu diddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig adeiladau, ac yn eu diogelu ar gyfer cenedlaethau sydd i ddod.
Mae Network Rail yn berchen ar fwy o asedau rhestredig nag unrhyw sefydliad arall yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi gweithio’n agos gyda James Yeandle, sef Swyddog Treftadaeth Adeiledig Sir Gaerfyrddin, er mwyn sicrhau yr adnewyddwyd yr adeilad mewn modd sensitif gan ganiatáu i’r adeilad gael ei ddefnyddio’n llawn.
Ychwanegodd Mr McKenna: “Mae’r gwaith adnewyddu wedi bod o fudd enfawr gan ein bod wedi adnewyddu chalet yn arddull Brunel sy’n cynrychioli enghraifft o waith adnewyddu pensaernïaeth rheilffyrdd o safon uchel. Mae’r adeilad bellach yn ased i’r gymuned leol.”
Fel gydag unrhyw brosiect adnewyddu, cafwyd heriau. Dros y blynyddoedd, cafodd yr adeilad ei newid; ychwanegwyd estyniadau a chollwyd nodweddion megis y simneiau. Roedd aelodau’r gymuned leol yn gallu bod o gymorth drwy anfon eu hen luniau er mwyn darparu tystiolaeth o sut yr edrychai’r orsaf yn wreiddiol.
Roedd y cerrig tywodfaen hardd a chain o amgylch y ffenestri’n frwnt iawn felly cymerwyd gofal mawr i ddod o hyd i ddull o’u glanhau a oedd yn effeithiol ond a oedd hefyd yn cadw’r manylion.
Roedd yr adeilad hefyd wedi mynd yn llaith iawn felly ailosodwyd plastr calch ar y waliau mewnol a gosodwyd llawr calchgrit gan fod y rhain yn ddeunyddiau sy’n caniatáu i’r adeilad ‘anadlu’. Pan ailosodwyd y simnai, darparwyd system awyru ychwanegol, gan ganiatáu llif aer ac atal lleithder.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rwyf wrth fy modd bod Adeilad Gorsaf Pantyffynnon wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr fawreddog hon.
“Bu Network Rail, y contractwyr, y Tîm Treftadaeth Adeiledig a’r Ymddiriedolaeth Treftadaeth Rheilffyrdd yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i oresgyn yr heriau, gan gwblhau gwaith adnewyddu adeilad eithriadol i fod yn falch ohono.
“Hefyd, cynigiwyd profiad dysgu gwych i fyfyrwyr gwaith saer Canolfan Tywi, a oedd yn gallu gweithio mewn cydweithrediad â’r contractwyr, Towy Projects ar y gwaith atgyweirio yn yr Orsaf.”