Friday, June 9, 2023
Galw am gymorth i ddatrys problem â sled Siôn Corn

Galw am gymorth i ddatrys problem â sled Siôn Corn

MAE prif fflôt Carnifal Nadolig Llanelli wedi methu ei phrawf MOT.

Ond peidiwch â phoeni. Mae cynllun arall i’w gael. Wrth lwc, ni fydd yn rhaid i Siôn Corn balu drwy eira a rhew ar ei feic er mwyn dosbarthu anrhegion, o na!

Diolch byth, bydd Carnifal Nadolig mwyaf Cymru yn cael ei gynnal yng Nghanol Tref Llanelli nos Wener a bydd Siôn Corn wrth y llyw fel arfer yn arwain yr 16 fflôt fydd yn cymryd rhan eleni.

Mae tîm o gynorthwywyr Siôn Corn wedi achub y dydd er mwyn sicrhau na fydd y dorf o oddeutu 20,000 y mae disgwyl iddynt garlamu i’r dref ar y noson yn cael eu siomi.

Mae’r cynorthwywyr wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd er mwyn ceisio helpu ac mae cwmni Gravells, Cydweli a Ford Gron Arberth wedi cynnig benthyg eu fflôt i’r Carnifal a sicrhau ei bod mewn cyflwr penigamp ar gyfer y dyn pwysig.

Ar ôl arwain Carnifal Llanelli am nifer o flynyddoedd a bod yn ganolbwynt i ddwsinau o orymdeithiau ar gyfer gwahanol grwpiau cymunedol, yn anffodus mae fflôt Cyngor Dinas Abertawe wedi methu ei phrawf MOT gan fod y ffrâm wedi rhydu. Mae’n ddigon posibl mai dim ond i’r domen sgrap aiff y fflôt bellach.

Nid oes modd rhentu’r fflôt ac ni fydd yn rhan o seremoni cynnau’r goleuadau Nadolig yn Abertawe eleni am y tro cyntaf mewn 30 o flynyddoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth: “Mae trefnwyr y Carnifal wedi cael sawl rhwystr eleni o ran sled Siôn Corn.

“Ond mae caredigrwydd cwmni Gravells, Cydweli a Ford Gron Arberth wedi sicrhau y bydd sled Siôn Corn a Rwdolff yn ymweld â’r Carnifal eleni eto – yr un mor bert ag erioed.”

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: