MAE Mudiad Meithrin newydd gyhoeddi mai Eunice Jones yw Rheolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Diploma Lefel 3 a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam, gan olynu Harri Jones, sydd yn ymddeol wedi 18 mlynedd o wasanaeth i’r Mudiad.
Mae’n amser prysur o’r flwyddyn i Eunice gyda chanlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi Ddydd Iau 23 Awst. Yn ystod y diwrnodau canlynol bydd disgyblion yn dewis a dethol pa gyrsiau i ddilyn yn ystod y flwyddyn nesaf, ac mae’n bosib i ddisgyblion ddewis rhai cyrsiau a gynigir trwy Gynllun Ysgolion Cam wrth Gam wrth ddychwelyd i’r ysgol ym mis Medi.
O fis Medi eleni, bydd 13 ysgol yn rhan o Gynllun Ysgolion Cam wrth Gam, sy’n cynnig cyrsiau i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd fel rhan o gwricwlwm yr ysgol. Cynigir amrywiaeth o gyrsiau yn cynnwys – Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal ac Addysg Plant, Diploma Lefel 2 mewn Gofal Dysgu a Datblygiad Plant, Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant a chwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant. Achredir yr holl gyrsiau gan y corff dyfarnu CACHE.
Ers dechrau cynnig y gwasanaeth arbenigol yma i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn 2006, mae bron i 1,000 o ddisgyblion wedi llwyddo i gymhwyso.
Meddai Eunice Jones:

“Rwy’n ymfalchïo yn y ffaith bod cymaint o ysgolion Cymraeg ar draws Cymru yn manteisio ar y ddarpariaeth sy’n cael ei gynnig trwy Gynllun Ysgolion Cam wrth Gam, yn ogystal â’r ffaith fod cymaint wedi cymhwyso trwy gyfrwng y Gymraeg i weithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ar draws Cymru ar y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol. Mae croeso i ysgolion eraill ledled Cymru sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg gysylltu â ni os hoffent drafod sut y gallwn ni gynnig y cyrsiau yma i’r disgyblion.”
Yn enedigol o Benuwch, Ceredigion, mae Eunice bellach yn byw yn Felinfach ac wedi gweithio i Mudiad Meithrin ers 2006. Bu’n Gydlynydd y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol ers 2010, cyn cael ei phenodi’n Ddirprwy Reolwr yn 2017 gan fod yn bennaf gyfrifol am Gynllun Ysgolion Cam wrth Gam yn genedlaethol.
Ychwanegodd Eunice:
“Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr i reoli’r Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol. Mae’n adeg cyffrous iawn ar hyn o bryd gyda’r cymwysterau newydd yn dod i rym ym mis Medi 2019. Rwy’n edrych ymlaen at y sialens i baratoi ar gyfer hyn ac i arwain ein tîm o staff trwy’r newidiadau gan geisio dilyn yn ôl troed Harri Jones.”
More Stories
Ymwelwyr â’r llyfrgell yn cael mynd ar daith uwch-dechnoleg yn ôl mewn amser
Tri safle ysbyty posib ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus
Bydd arbenigedd Prifysgol Caerdydd yn llunio prosiect lles Pentre Awel