MAE hyd at 7,000 o welyau ysbyty ychwanegol yn cael eu creu gan GIG Cymru ar gyfer cynnydd mewn achosion o goronafeirws, datgelwyd gan Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Yn Gorllewin Cymru y bwriad yw creu 2060 o welyau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynllunio ar gyfer 660 o welyau ychwanegol drwy ddefnyddio Parc y Scarlets a Bluestone yn Sir Benfro, Canolfan Selwyn Samuel yn Llanelli ac Ysbyty Werndale yng Nghaerfyrddin.

Yn yr un modd mae Bwrdd iechyd Bae Abertawe yn creu mwy na 1,400 o welyau yn Academi Chwaraeon Llandarsi, Stiwdios Bay yn Abertawe a hefyd bydd yn defnyddio Ysbyty Sancta Maria.

, , , ,
Similar Posts
Latest Posts from Llanelli Online