Fore Sadwrn, 2 Mehefin bydd dros 200 o blant bach rhwng 2-5 oed o Gylchoedd Meithrin a Dosbarthiadau Derbyn Ysgolion Cynradd Brycheiniog a Maesyfed yn serennu yn y Pasiant Meithrin a berfformir ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am 9.45yb. Trefnir y Pasiant gan Mudiad Meithrin a bydd y perfformiad yn para 20 tua munud.
Mudiad Meithrin sy’n gyfrifol am gydlynu’r pasiant yn flynyddol ac eleni’r teitl yw ‘Rhy Gynnar i’r Sioe!’
Meddai Olwen Jones, Swyddog Cefnogi De Powys Mudiad Meithrin:
“Gan fod Eisteddfod yr Urdd ar faes Y Sioe Fawr eleni dewiswyd nifer o’r caneuon sy’n gyfarwydd iawn i blant y Cylchoedd Meithrin sy’n ymwneud ag anifeiliaid – llawer ohonynt yn hen ffefrynnau traddodiadol fel Gee Ceffyl Bach ac Oes Gafr Eto? Mae’r plant wrth eu boddau yn cymryd rhan, ac mi fydd yn brofiad bythgofiadwy iddyn nhw a’u teuluoedd. Mi fydd y Pasiant yn berfformiad bywiog a lliwgar ac yn ffordd wych o ddathlu addysg Gymraeg ar ei gorau gan blant bach ardal Brycheiniog a Maesyfed.”
Bydd sawl parti yn cael ei gynnal i ddathlu’r pasiant yn uned Mudiad Meithrin wedi’r perfformiad. Yn ystod y partïon yma bydd tystysgrif yn cael ei roi i bob plentyn a gymerodd ran i’w hatgoffa o’r achlysur arbennig.
Meddai Heather Davies-Rollinson, Rheolwr Talaith y De-orllewin a’r Canolbarth ac un o drefnwyr y pasiant:
“Rydym yn hynod o ddiolchgar i bawb am eu cydweithrediad parod i lwyfannu’r Pasiant Meithrin eleni, yn enwedig i Aeron Pughe am arwain y pasiant, i Olwen Jones am ysgrifennu’r sgript ac i Jill Lewis am gyfeilio, ac, wrth gwrs, i’r holl arweinyddion, staff, a’r rhieni sydd wedi bod yn brysur yn paratoi’r plant tuag at y perfformiad arbennig yma – ac yn bennaf oll i’r holl blant fydd yn serennu ar y llwyfan.”