MAE un o weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin yn dringo mynydd yn yr Andes ym mis Ionawr i godi arian i helpu Môr-filwyr Brenhinol, eu teuluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid.
Mae Brendan Davies, warden cŵn sy’n gyn-aelod o’r Môr-filwyr Brenhinol, yn dringo Aconcagua gyda’r mudiad 65˚ North ym mis Ionawr. Ef yw’r unig berson o Sir Gaerfyrddin sy’n dringo’r mynydd.
Ymunodd Brendan â’r Môr-filwyr Brenhinol yn 1993 a bu’n gwasanaethu yn y Grŵp 40 Commando a’r Grŵp Comacchio. Cymerodd ran mewn nifer o ymgyrchoedd gweithredol a rhai hyfforddi. Yn ystod ei wasanaeth, datblygodd anaf difrifol i’w gefn a bu’n rhaid iddo dreulio amser yn yr ysbyty a chyfnod yn adsefydlu ar ôl cael ei ryddhau o’i ddyletswyddau gyda’r Môr-filwyr.
Dywedodd: “Rwy’n dringo Aconcagua ar gyfer elusen y Môr-filwyr Brenhinol gan fod yr elusen yn agos iawn at fy nghalon. Bydd yr arian a godir yn helpu i ddarparu’r cymorth elusennol gorau posibl drwy gydol eu bywydau ar gyfer Môr-filwyr Brenhinol, eu teuluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid.
“Rwy’n edrych ymlaen at yr her o ddringo Aconcagua. Mae’n gyfle i ddangos fy ngallu yng nghanol tîm bach o bobl eithriadol.”
Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin, sydd yn gyn-filwr ei hun: “Rwy’n cefnogi Brendan i’r carn yn ei ymdrech i godi arian. Mae e wedi derbyn yr her i ddringo i gopa’r Andes i helpu cyn-aelodau o’r Môr-filwyr Brenhinol a’r rhai presennol, ynghyd â’u teuluoedd. Byddwn yn annog pobl i roi’n hael wrth noddi Brendan.”