MAE miloedd o aelwydydd eisoes wedi derbyn eu tri rolyn o fagiau glas ac mae’r dosbarthu’n parhau ledled y Sir.
Gwnaed y penderfyniad i ddosbarthu bagiau glas i bob aelwyd yn dilyn adborth gan breswylwyr. Roedd pobl yn gofyn i fagiau glas fod yn fwy hygyrch er mwyn eu helpu nhw i ailgylchu mwy.
Mae criwiau’n dosbarthu bagiau glas i’r holl aelwydydd yn Sir Gaerfyrddin a disgwylir iddynt orffen y gwaith hwn erbyn diwedd mis Chwefror.
Gofynnir i unrhyw un sydd heb dderbyn bagiau glas erbyn diwedd Chwefror i gysylltu â gwasanaethau cwsmeriaid y Cyngor. Cynghorir pobl i beidio â phoeni os oes rhai aelwydydd yn yr ardal, neu ffrindiau a theulu eisoes wedi derbyn eu cyflenwad.
Gall aelwydydd, megis teuluoedd mawr, a allai fod angen rholiau ychwanegol, gasglu bagiau o 10 man casglu ledled y Sir yn ogystal â’r gwasanaeth llyfrgelloedd teithiol. Dyma’r llefydd casglu: Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin a Rhydaman; Yr Hwb yn Llanelli; Desg dalu Coleshill yn Llanelli; Adeiladau’r Cyngor, Llandeilo; Canolfan Hamdden Sanclêr; Llyfrgell Castellnewydd Emlyn; Pwll Nofio Llanymddyfri; Swyddfeydd Cyngor Ceredigion yn Llanbedr Pont Steffan a Llyfrgell Llandysul. Ni fydd angen i bobl archebu bagiau ar-lein mwyach.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae cyrraedd dros 86,000 o aelwydydd ledled y sir wedi bod yn dasg enfawr ac wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl ond drwy wneud hyn, rwy’n gobeithio y bydd yn haws i aelwydydd ailgylchu mwy o’u gwastraff yn eu bagiau glas yn hytrach nag anfon y gwastraff i safleoedd tirlenwi.
“Trwy ddosbarthu bagiau glas i gartrefi, rydym yn sicrhau bod pawb yn gallu ailgylchu. Gall preswylwyr a oedd o’r farn bod casglu bagiau glas o fannau casglu yn lletchwith yn sgil yr oriau agor neu’r rheiny a oedd yn ansicr ynghylch ble y dylid casglu rhagor o fagiau fod yn dawel eu meddwl y bydd ganddynt gyflenwad digonol o fagiau glas i ailgylchu’n briodol.
Nid oes terfyn ar nifer y bagiau ailgylchu glas sy’n gallu cael eu rhoi allan i’w casglu. Gofynnir i bobl olchi’r eitemau a sicrhau eu bod yn sych cyn eu rhoi yn y bagiau. Gall yr holl eitemau sy’n gallu cael eu hailgylchu o’ch cartref megis caniau erosol, ffoil, caniau diod a bwyd, papur, cardbord, poteli plastig a photiau gael eu rhoi mewn bagiau glas i’w hailgylchu.