BYDD bagiau glas yn cael eu dosbarthu am ddim i bob aelwyd yn Sir Gaerfyrddin ym mis Rhagfyr a mis Ionawr.
Darperir tri rholyn o fagiau glas i bob aelwyd, cyfanswm o 156 o fagiau, tua chwech ar gyfer pob wythnos casgliad ailgylchu. Mae’n dilyn adborth gan breswylwyr sydd eisiau derbyn bagiau glas heb drafferth er mwyn ailgylchu mwy o wastraff.
Nod dosbarthu bagiau glas i bob aelwyd yw sicrhau bod gan bob trigolyn bagiau i’w galluogi nhw i ailgylchu yn hawdd. Gall trigolion a oedd yn cael trafferth casglu bagiau glas o allfeydd oherwydd amserau agor neu oedd yn ansicr o ble i gasglu rhagor o fagiau bod yn sicr bod ganddyn nhw gyflenwad digonol i ailgylchu’n iawn.
Gall aelwydydd, megis teuluoedd mwy o faint, sydd efallai angen rhagor o roliau, eu casglu o 10 man casglu ledled y Sir yn ogystal â’r gwasanaeth llyfrgell symudol. Y rhain yw Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin a Rhydaman; Yr Hwb yn Llanelli; Desg dalu Coleshill yn Llanelli; Adeiladau’r Cyngor, Llandeilo; Canolfan hamdden Sanclêr, Llyfrgell Castellnewydd Emlyn, Pwll Nofio Llanymddyfri; Swyddfeydd Cyngor Ceredigion yn Llandysul a Llanbedr Pont Steffan. Ni fydd angen i bobl archebu bagiau ar-lein mwyach.
Mae ffigurau diweddar yn dangos bod trigolion Sir Gaerfyrddin yn ailgylchu dros 66% o’u sbwriel, gan ragori ar darged a bennwyd ar gyfer y flwyddyn 2019/20, sef 64%.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rwy’n falch o’n cyfraddau ailgylchu, ond yn amlwg gallem wneud mwy. Gobeithiaf y bydd dosbarthu bagiau glas i bob cartref yn annog mwy o bobl i ailgylchu gwastraff y cartref y byddwn yn gallu ei gasglu mewn bagiau glas.”
Gall pwyntiau presennol ar gyfer bagiau glas archebu stoc tan 31 Rhagfyr i sicrhau bod pobl yn gallu casglu rholyn os ydyn nhw’n rhedeg mas dros gyfnod y Nadolig.
Gofynnir i bobl bod yn amyneddgar gan fydd dosbarthu yn cymryd dau fis a bydd yn cael ei gyflawni trwy ardaloedd rownd ailgylchu. Mae’n bosib i gyfaill neu berthynas derbyn bagiau ond dydych chi ddim. Bydd criwiau yn dosbarthu i bob aelwyd, er hynny dyle unrhyw un sydd heb dderbyn bagiau erbyn 1 Chwefror cysylltu Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Does dim cyfyngiad ar faint o fagiau glas ailgylchu gellir rhoi mas am gasglu. Gofynnir i bobl rinsio’r eitemau a’u rhoi yn y bagiau yn sych. Gellir rhoi pob eitem ailgylchadwy o’ch cartref megis caniau aerosol, caniau bwyd a diod, papur, cardbord, boteli a photiau plastig yn y bagiau glas.
Gall trigolion newydd a phobl sy’n ansicr ynglŷn â pha eitem gellir rhoi yn y bagiau glas darganfod mwy ar y tudalennau ailgylchu yn www.sirgar.llyw.cymru