MAE digwyddiad wedi cael ei drefnu ym Mharc y Scarlets i nodi Diwrnod Cenedlaethol Hawliau Gofalwyr ddydd Gwener, 24 Tachwedd.
Fel rhan o’r digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan Adran Cymunedau Cyngor Sir Caerfyrddin, bydd siaradwr gwadd yn bresennol ac yna cynhelir cyfres o weithdai/sesiynau rhagflas ar gyfer gofalwyr – gweithdy chwerthin, Cymorth Cyntaf sylfaenol, Gwytnwch i Ofalwyr, Celf Er Llesiant, LIFT – low impact functional training, Tylino Pen Dull Indiaidd ac Adweitheg.
Ar ôl cinio bydd teyrnged i Elizabeth Evans MBE a dreuliodd ei hoes yn gofalu ac yn cefnogi gofalwyr.
Bydd cyflwyniad i ddwy ysgol sydd wedi ennill Gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr.
Bydd y diwrnod yn tynnu at ei derfyn drwy gyflwyno Gwobrau Bòs Gofalgar Sir Gaerfyrddin 2017. Cafodd y gwobrau sy’n cael eu cynnal bob dwy flynedd eu cyflwyno fel rhan o Gynllun Gweithredu Gofalwyr Sir Gaerfyrddin i ysgogi ymwybyddiaeth o ofalwyr sy’n gweithio a chodi proffil a chydnabod cyflogwyr neu reolwyr yn y gwaith sydd wedi cefnogi gofalwyr yn eu gweithlu.
Bydd y digwyddiad yn dod i ben â Raffl Nadolig.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Hyrwyddwr Gofalwyr: “Mae o leiaf 370,000 o ofalwyr yng Nghymru. Mae’r gofal a ddarperir gan ofalwyr di-dâl yn arbed £8.1biliwn i economi Cymru bob blwyddyn.
“Mae ymchwil yn dangos nad yw pobl yn ystyried eu hunain yn ofalwyr yn aml ac nad ydynt yn cael cydnabyddiaeth. O ganlyniad, maent yn colli allan ar gymorth ariannol ac ymarferol hanfodol, sy’n drychinebus o ran eu sefyllfa ariannol a’u hiechyd eu hunain.
I gael gwybodaeth bellach ynghylch gofalu, ewch i https://www.carersuk.org/news-and-campaigns/carers-rights-day