AETH disgyblion ysgol ati yn ddiweddar i reoli tri o adeiladau nodedig Llanelli am y diwrnod.
Trefnodd Cymunedau yn Gyntaf Ddiwrnod Cysgodi ar raddfa fawr ynghyd â Phlas Llanelly, Llyfrgell Llanelli ac Amgueddfa Parc Howard.
Roedd 16 o ddisgyblion Ysgol Coedcae wedi mynd ati i gyflawni rolau’r staff yn y lleoliadau hanesyddol hyn, gan ymgymryd â chyfrifoldebau y mae’n bosibl nad ydynt erioed wedi cael cyfle i’w gwneud cyn hynny.
Yn ogystal, ymwelodd 20 o ddisgyblion Blwyddyn Chwech Ysgol Dewi Sant â Phlas Llanelly a chawsant eu tywys o amgylch yr adeilad gan ddisgyblion Ysgol Coedcae, cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft yn Llyfrgell Llanelli.
Ariannwyd y prosiect gan y Rhaglen Gyfuno, sef menter Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o leihau’r bylchau anghydraddoldeb ar gyfer unigolion sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig drwy roi cyfle iddynt fanteisio ar wasanaethau diwylliannol.
Mae Sir Gaerfyrddin wedi llwyddo yn ei hymgais i barhau i ddarparu’r Rhaglen Gyfuno am y ddwy flynedd nesaf, gan ganolbwyntio ar wella ffyniant, iechyd a dysgu drwy greu cyfleoedd.
Enw’r digwyddiad ym Mharc Howard oedd ‘Pam mae angen i mi wisgo menig?’ gan mai’r thema oedd cadwraeth a sut i ofalu am gasgliadau’r amgueddfa.
Gwahoddwyd chwe disgybl Blwyddyn 10 o Ysgol Coedcae i dreulio’r diwrnod yng nghwmni swyddogion cadwraeth proffesiynol a rheolwr yr amgueddfa i archwilio storfeydd yr amgueddfa ac ymgymryd â pheth gwaith cadwraeth ymarferol.
Dywedodd Morrigan Mason, Rheolwr Datblygu Amgueddfeydd: “Roedd y bobl ifanc wedi’u rhyfeddu a’u diddori’n llwyr gan y casgliadau yn y storfa, yn enwedig gan benglog teigr o India a laddwyd ym 1864, pâr o glocsiau menyw a wisgwyd tua 150 o flynyddoedd yn ôl yn y gwaith stampio Tunplat a Metel Cymreig yn Llanelli, coler ffwr a chyffiau o got, a gwrthrych hynod y darganfuwyd yn hwyrach i fod yn rhan o stalactid.
“Roeddwn wedi gweithio gyda’n gilydd i asesu cyflwr y gwrthrychau cyn cynnal gwaith glanhau cadwraethol gofalus iawn.”
Gwnaeth yr amgueddfa ddarganfod fod ganddi nifer o wrthrychau rhyfeddol a oedd o ddiddordeb mawr i ymwelwyr ifanc, ac y byddai bellach yn edrych ar ffyrdd o adeiladu ar hyn i apelio at gynulleidfa ehangach.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Roedd yn gyfle gwych i ddisgyblion ysgol lleol ddarganfod yr hyn sydd gan Blas Llanelly, Llyfrgell Llanelli ac Amgueddfa Parc Howard i’w gynnig a chymryd rhan y gwaith diddorol y mae eu staff yn ei wneud.”
Mae Diwrnod Cysgodi arall wedi’i drefnu ar gyfer dydd Mercher 6 Rhagfyr.