MAE dyn o Nantgaredig wedi cyfaddef iddo adael bag sbwriel du ar y llawr mewn safle ailgylchu yn Abergwili.
Cafodd Scott Clarkson ddirwy o £209 ar ôl i swyddogion gorfodi wneud archwiliadau.
Cafodd y dyn, 47 oed, hysbysiad cosb benodedig ond ni wnaeth unrhyw daliad ac yna, aeth yr achos i’r llys.
Rhoddwyd gorchymyn gan Lys Ynadon Llanelli i’r dyn, a blediodd yn euog drwy’r post, dalu £68 mewn costau a £30 o ordal dioddefwr, mewn erlyniad o dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Byddwn ni’n parhau i gymryd camau gweithredu yn erbyn pobl sy’n cael eu dal yn gwaredu sbwriel yn anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin.”
Os ydych yn gweld rhywun yn taflu sbwriel, yn tipio’n anghyfreithlon neu’n gadael gwastraff, gallwch roi gwybod am hynny ar-lein drwy fynd i sirgar.llyw.cymru (yr adran ailgylchu, biniau a sbwriel) neu drwy ffonio 01267 234567 yn ystod oriau swyddfa.