Thursday, March 23, 2023
Dewis y Fferyllfa ar gyfer anhwylderau cyffredin y Nadolig hwn

Dewis y Fferyllfa ar gyfer anhwylderau cyffredin y Nadolig hwn

DEWIS y Fferyllfa ar gyfer anhwylderau cyffredin y Nadolig hwn,
Gyda’r Nadolig ar y gorwel, mae pobl yn cael eu hannog i fod gall y gaeaf hwn trwy ymweld â’u fferyllydd lleol ar gyfer mân gyflyrau, yn hytrach na mynd at eu meddyg teulu neu’r adran damweiniau ac achosion brys.

Mae’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn cwmpasu 26 o gyflyrau lle y gall fferyllydd asesu a rhoi meddyginiaeth am ddim, os yw’n addas, heb fod angen am bresgripsiwn. Mae’r gwasanaeth yn rhoi cyfle i gleifion ofyn am gyngor neu driniaeth gan fferyllfa gymunedol sy’n cymryd rhan, a hynny ar gyfer rhestr benodol o anhwylderau, yn hytrach na mynd at eu meddyg teulu.

Yn dilyn ymgynghoriad byr, bydd y fferyllydd yn rhoi cyngor, yn cyflenwi meddyginiaeth ar sail fformiwla y cytunwyd arni, neu, lle bo angen, yn atgyfeirio’r claf at ei feddyg teulu.

Cyflwynwyd y gwasanaeth i fferyllfeydd ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ar ddechrau 2017 ac ar hyn o bryd mae 66 o fferyllfeydd allan o 99 yn y tair sir yn cymryd rhan yn y cynllun.

Dywedodd Richard Evans, fferyllydd cymunedol sy’n cymryd rhan yn y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin: “Mae fferyllwyr cymunedol wedi arfer cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser wedi argymell triniaethau priodol i’r claf, neu os oes angen, eu cyfeirio at Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol arall.

“Mae’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin Dewis Fferyllfa yn defnyddio arbenigedd y fferyllydd, heb unrhyw gost i’r claf ar gyfer y gwasanaeth.

“Ers i mi ddechrau cynnig y gwasanaeth newydd mewn nifer o fferyllfeydd cymunedol yn y gorllewin, yr wyf wedi cael sawl atgyfeiriad o feddygfeydd meddygon teulu, megis tarwden y traed a llid pilen y llygad, fel bod y claf yn gallu cael cyngor a thriniaeth ar gyfer y cyflyrau, os oedd angen.

“Mae hyn yn rhyddhau amser gwerthfawr y meddygon teulu i ganolbwyntio ar broblemau meddygol mwy cymhleth, wrth i’r fferyllydd allu defnyddio ei arbenigedd yn yr ymgynghoriad yn y fferyllfa gymunedol.”

Am ragor o wybodaeth am gynlluniau gaeaf y Bwrdd Iechyd, a chyngor ar y modd y gallwch chi helpu, ewch i www.hywelddahb.wales.nhs.uk/winterwise

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: