MAE Hywel Dda yn falch iawn o gyhoeddi bod dau aelod o’n staff nyrsio sef Helen Furneaux, Arweinydd Tîm Ymwelwyr Iechyd a Sian Perry Uwch Brif Nyrs Gofal Ambiwladol Paediatreg, wedi’u derbyn i’r rhaglen fawreddog Ysbrydoli Gwelliant y Sefydliad Astudiaethau Nyrsio (_FoNS_).
Mae Ysbrydoli Gwelliant yn rhaglen newydd gyffrous, a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Burdett dros Nyrsio, sy’n anelu at ddatblygu cymuned o Gymrodyr Gwelliant FoNS – arweinwyr clinigol gydag arbenigedd mewn hwyluso gwelliant parhaus a newid diwylliant ar flaen y gad.
Cyflwynir y rhaglen dros 12 mis ac mae’n galluogi Cymrodyr i ddatblygu eu sgiliau fel hwyluswyr, i archwilio a galluogi defnydd o strategaethau effeithiol ar gyfer creu diwylliannau yn y gweithle sy’n canolbwyntio ar y person ac i hyrwyddo / arwain ar arferion gwelliant parhaus o fewn eu
timau. Byddant hefyd yn mireinio eu sgiliau hwyluso a datrys problemau, yn hyrwyddo ymarfer myfyriol a byddant yn rhannu deilliannau eu dysgu ar draws y sefydliad i helpu i ddatblygu arfer gorau.
Wrth sôn am eu cyflawniad, meddai Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Roedd Helen a Sian yn wynebu cystadleuaeth anodd i’w derbyn ar y rhaglen felly roeddem wrth ein bodd yn clywed eu bod wedi cael lle. Roedd FoNS yn chwilio am ymarferwyr brwdfrydig sy’n arwain timau nyrsio a / neu ofal sydd ar flaen y gad o ran gofal clinigol a chanddynt ddymuniad i greu diwylliannau yn y gweithle sy’n fwy diogel, gofalgar ac effeithiol i gleifion / trigolion a staff, ac mae Helen a Sian yn ateb hyn i’r dim.
“Rydym yn edrych ymlaen iddynt ddod nôl â’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu i’r gweithle, ei rannu gyda chydweithwyr ac, yn y pen draw, cyflwyno newidiadau diwylliannol cadarnhaol a phrosesau gwelliant parhaus.