Wednesday, May 31, 2023

Dathlu sgiliau iaith

WRTH inni baratoi i ddathlu Cymreictod yr wythnos hon ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, cofiwch y gallwch gysylltu â Chyngor Sir Caerfyrddin yn eich dewis iaith drwy nifer o ffyrdd gwahanol.

P’un a ydynt yn dysgu’r iaith neu’n siaradwyr Cymraeg rhugl, gall trigolion y Sir siarad â’r Cyngor ym mha ffordd bynnag y dymunant – o ffonio, anfon e-bost, ysgrifennu neu fynd ar-lein.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg: “Mae defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn allweddol i’w ffyniant. Hoffwn annog ein cwsmeriaid sy’n defnyddio ein gwasanaethau i ddefnyddio eu sgiliau iaith, beth bynnag fo’u lefel bresennol, a hefyd atgoffa ein dysgwyr Cymraeg bod croeso iddyn nhw sgwrsio â ni ac ymarfer. Mae hyn hefyd yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn pwysleisio bod gan bawb gyfraniad i’w wneud o ran gwireddu’r weledigaeth hon.”

Yn ystod yr wythnos, bydd aelodau o staff hefyd yn rhan o safleoedd cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Caerfyrddin, er mwyn annog cwsmeriaid sy’n cysylltu â’r awdurdod ar gyfer amrywiaeth eang o wasanaethau i ddathlu sgiliau a thafodieithoedd lleol ei weithlu.

I gysylltu â’r Cyngor, ewch i www.sirgar.llyw.cymru

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: