Friday, June 9, 2023
Datganiad ynghylch Meddygfa Harbour View

Datganiad ynghylch Meddygfa Harbour View

Mae Meddygfa Harbour View yn rhoi ei chytundeb Gwasanaethau Meddygaol Cyffredinol yn ôl i ddwylo Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Hywel Dda ar 31 Mai 2017 oherwydd ymddeoliad y Meddyg Teulu Dr Lodha.

Mae cynaladwyedd parhaus y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer y boblogaeth yn flaenoriaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a bydd cynllun cadarn yn cael ei ddatblygu dros y tri mis nesaf er mwyn sicrhau y trefniadau gorau posibl ar gyfer cleifion cofrestredig y Feddygfa.

Dywedodd Elaine Lorton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol y Bwrdd Iechyd: “Rydym yn derbyn y gallai hyn achosi rhywfaint o bryder yn y gymuned a dymunaf dawelu meddwl cleifion Meddygfa Harbour View trwy ddweud y gallant barhau i gael mynediad at wasanaethau Meddyg Teulu yn y Feddygfa.

“Rwy’n falch bod Meddygfa Harbour View wedi ymrwymo i gyd-weithio â ni i sicrhau bod gwasanaethau cleifion yn parhau i gael eu darparu yn y tymor byr.

“Byddwn yn ymgysylltu â Meddygfeydd arall yn lleol i ymchwilio i atebion posib ar gyfer y tymor hwy. Mae’r Bwrdd Iechyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth barhaus y gymuned ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal y safonau uchel o ofal y mae Meddygfa Harbour View yn eu darparu ar hyn o bryd.

“Ar ran y Bwrdd Iechyd dymunaf ddiolch i Dr Lodha am ei blynyddoedd o wasanaeth i gymuned Porth Tywyn. Rydym yn gwerthfawroogi’r gwaith y mae wedi’i wneud mewn darparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ym Meddygfa Harbour View. Estynnwn ein dymuniadau da i Dr Lodha wrth iddi gychwyn ar ei hymddeoliad.”

Bydd y Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu at y cleifion yn ystod yr wythnosau nesaf i’w hysbysu o’r cynllun ar gyfer y gwasanaeth.

Os dymuna unrhyw glaf gyflwyno unrhyw wybodaeth bellach mewn ysgrifen, mae croeso iddo ei hanfon at Elaine Lorton yn Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, Sir Gâr SA31 3BB.

Yn y cyfamser, dylai cleifion Meddygfa Harbour View gyfeirio unrhyw ymholiadau at Laura Lloyd Davies, Rheolwr Datblygu Ardal Gofal Sylfaenol ar 07805 799658 neu at Wasanaethau Cefnogi Cleifion y Bwrdd Iechyd ar 0300 0200 159.

 

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: