CYNHALIWYD cystadleuaeth Adloniant Cymraeg a Saesneg C.Ff.I Sir Gâr yn Neuadd y Gwendraeth yn ddiweddar. Bu tair noson o gystadlu brwd gydag un Clwb yn cystadlu yn yr Adloniant Saesneg a naw Clwb yn yr Adloniant Cymraeg.
C.Ff.I Llanymddyfri aeth a’r cwpan yn yr adran Saesneg gyda’i perfformiad o “Let’s talk…Later!”. Yn yr Adran Gymraeg, C.Ff.I Penybont daeth i’r brig gyda’i perfformiad o “Yma i Aros”, gyda C.Ff.I Dyffryn Cothi yn ail, a C.Ff.I Capel Iwan yn drydydd. Llongyfarchiadau mawr i’r holl Glybiau am berfformiadau gwych.
Fe aeth y gwobrau am yr unigolion gorau yn yr Adran Gymraeg a’r Saesneg i’r canlynol:
Perfformiwr gorau 18 oed neu’n iau: Gilbert Roberts, C.Ff.I Penybont
Perfformwraig orau 18 oed neu’n iau: Lowri Voyle, C.Ff.I Llanddarog
Perfformiwr gorau 26 oed neu’n iau: Deian Thomas ac Eirwyn Richards, C.Ff.I Dyffryn Cothi
Perfformwraig orau 26 oed neu’n iau: Caryl Hâf Evans, C.Ff.I Dyffryn Cothi
Cynhyrchydd Gorau: Buddug James Rees, Indeg Jameson, Mared Evans a Sioned Page Jones, C.Ff.I Penybont
Fe fydd C.Ff.I Llanymddyfri a Phenybont yn cynrychioli Sir Gâr yn rownd derfynol y gystadleuaeth Adloniant ar lefel Cymru yn y Drenewydd. Pob lwc iddynt.
Rydym yn ddiolchgar iawn i’n beirniaid sef Mr Terwyn Davies am ei waith yn ystod yr wythnos. Diolch hefyd i bawb fuodd yn cynorthwyo yn ystod yr wythnos a diolch arbennig i Dafydd Lloyd George a Nia Thomas a fu’n gweithio’n ddiwyd wrth y golau a’r sain.
Diolch arbennig hefyd i’r holl a fuodd yn helpu gyda’r parcio, yn y drws, gwerthu raffl a Swyddogion y Sir am fod yng ngofal y siop yn ogystal â chyflwyno’r dair noson.
Ni fyddai’r wythnos wedi bod yn bosib heb ein noddwyr sef Cyngor Sir Gaerfyrddin ac Addysg Seren a hefyd i Undeb Amaethwyr Cymru am noddi’r gwobrau.
More Stories
Sir Gâredig – Rhannu Caredigrwydd Sir Gâr
Ymgynghoriadau ynghylch ysgolion ar y gweill
Helpwch Ni i’ch Helpu Chi pan gewch eich Derbyn mewn Argyfwng / Help Us to Help You when Admitted as an Emergency