MAE trigolion yn Heol Dyfnallt, Caerfyrddin, wedi cael gwybod y bydd gwaith tir ymchwiliol yn cael ei gynnal yn yr ardal dros yr wythnosau nesaf.
Roedd gwaith nwy yn arfer bod ar y safle cyn i dai gael eu hadeiladu yno. Roedd y gwaith nwy yn gwasanaethu Ysbyty Dewi Sant a chafodd ei ddymchwel yn 1938.
Mae’r Cyngor yn cynnal archwiliadau rheolaidd ar y tir er mwyn bod yn gwbl ddiogel, ac mae wedi penodi contractwyr i archwilio cyflwr nifer o fannau agored glas rhwng Heol Dyfnallt a Bro Myrddin.
Mae’r aelodau lleol, y Cynghorydd Emlyn Schiavone a’r Cynghorydd Alan Speake, wedi cael gwybod am y gwaith arfaethedig ac maen nhw’n cynorthwyo’r Cyngor i gyfathrebu â thrigolion.
Hefyd mae llythyr wedi cael ei anfon i bob aelwyd ar yr ystâd yn rhoi gwybod iddyn nhw am y gweithgarwch arfaethedig.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Peth amser yn ôl roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cynnal ymchwiliad i gyflwr y tir yn Heol Dyfnallt oherwydd y gwaith nwy oedd yn arfer bod ar y safle nifer o flynyddoedd yn ôl.
“Er mwyn rhoi sicrwydd i’n hunain nad oes unrhyw newid sylweddol wedi bod ers yr arolwg tir diwethaf, byddwn yn cynnal ychydig o waith dilynol yn yr wythnosau nesaf i fonitro cyflwr y tir. Mae hyn yn cael ei wneud yn unig er mwyn bod yn gwbl ddiogel ac er mwyn gwirio bod y cyflwr yn parhau’n foddhaol.”
Ni fydd angen cael mynediad i gartref unrhyw un er mwyn gwneud y gwaith, ac ni fydd angen i drigolion fod gartref pan fydd yr arolwg yn cael ei wneud.
Gall unrhyw un sydd â phryderon ynghylch y mater gysylltu â Thîm Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor drwy ffonio 01267 234567.