MAE’R Cyngor wedi cyflwyno cynlluniau i adeiladu 210 o dai ar hyd arfordir Llanelli.
Mae cyfle gan bobl i gael cipolwg am y tro cyntaf ar y cynlluniau ar gyfer y datblygiad arfaethedig newydd ar dir yn Noc y Gogledd.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio ymarfer cyn ymgynghori i gasglu adborth ynghylch ei gynlluniau. Wedyn bydd yr adborth hwn yn cael ei grynhoi mewn adroddiad ymgynghori cyn cyflwyno cais cynllunio, a fydd yn ffurfio rhan o’r broses gynllunio.
Disgwylir i gais cynllunio ffurfiol gael ei gyflwyno ar ôl i’r cyfnod cyn ymgynghori ddod i ben ar 23 Ebrill.
Dywedodd Emlyn Dole, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio: “Megis dechrau mae’r cynllun hwn, ond mae’n ddatblygiad cyffrous i Lanelli, sy’n rhan o’n dyheadau adfywio ehangach ar gyfer arfordir Sir Gaerfyrddin.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y datblygiad hwn i roi adborth fel rhan o’r broses cyn ymgynghori, ond bydd cyfle arall i ddweud eich dweud pan fydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno.”
- I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein ewch i http://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/land-at-north-dock-llanelli/