BYDD yr ymgyrch newydd ar gyfer iechyd meddwl, a sefydlwyd gan bobl ifanc Sir Gaerfyrddin, yn cael ei lansio yn y Gynhadledd Ieuenctid flynyddol eleni.
Bydd Harriet Alsop-Bingham, sydd yn ei harddegau ac yn byw yng Ngarnant, yn lansio ‘Stori Harriet’ ar ran y Cyngor Ieuenctid.
Mae ‘Stori Harriet’ yn annog pobl i wneud addewid i ddechrau sgwrs ag eraill.
Mae Harriet, sy’n 16 oed, wedi dangos cryfder a dewrder i oresgyn anawsterau personol. Dywedodd: “Mae Iechyd Meddwl yn fater i bawb ac rwyf yn gobeithio y bydd Stori Harriet yn helpu pobl, p’un a ydynt yn aelodau o deulu, staff ysgol neu rywun rydych wedi dod ar ei draws ar y stryd. Mae’n bwysig holi pobl ynghylch sut y maen nhw’n teimlo, oherwydd gallai dechrau sgwrs newid bywyd.”
Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg, a fydd yn llofnodi copi cyntaf Addewid Stori Harriet yn y gynhadledd. Dywedodd: “Mae gan Harriet stori ysbrydoledig iawn i’w hadrodd ac rwyf yn sicr y bydd yn rhoi anogaeth a chymorth i eraill. Rwyf yn llongyfarch Harriet a’r Cyngor Ieuenctid am hoelio sylw ar y pwnc pwysig ac anodd hwn,” dywedodd.
“Rwyf yn gobeithio y bydd pobl yn cefnogi ac yn llofnodi addewid Harriet.”
Disgwylir i dros 100 o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed o ysgolion, colegau a phrosiectau ieuenctid ledled Sir Gaerfyrddin fod yn bresennol yn y gynhadledd eleni ym Mharc y Scarlets ar 22 Tachwedd o 9.30am tan 2.30pm.
‘Diwrnod gwael, dim bywyd gwael’ yw teitl y gynhadledd, a’i thema yw Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.
Caiff y gynhadledd ei threfnu ar y cyd gan Gyngor Ieuenctid Sir Gâr a Thîm Cyfranogiad a Hawliau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin.
Yn ystod y digwyddiad, bydd pobl ifanc yn gwrando ar areithiau ac yn cymryd rhan mewn gweithdai a thrafodaethau ynghylch Iechyd Meddwl â phobl ifanc eraill, pobl sy’n gwneud penderfyniadau a phobl broffesiynol o’r sector iechyd ac addysg.
Dywedodd Freya Sperinck, 15 oed sy’n aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gâr ac yn ddisgybl yn Ysgol Bryngwyn: “Nod y gynhadledd yw codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl sy’n wynebu pobl ifanc heddiw, ac yn bwysicach fyth, dysgu’r bobl ifanc am yr hyn y gallant ei wneud i helpu eu hiechyd meddwl eu hunain ac iechyd meddwl pobl eraill.”
Os ydych rhwng 11 a 25 oed ac am rannu eich sylwadau a’ch profiadau o ran iechyd meddwl pobl ifanc, gallwch archebu eich lle neu gael rhagor o wybodaeth am Stori Harriet ac am sut i roi eich addewid drwy fynd i http://www.youthsirgar.org.uk/cartref/