YDYCH chi’n gwneud y mwyaf o’r gwasanaethau sydd ar gael ar-lein?
Mewn lleoliadau ledled Cymu, gallwch chi wneud apwyntiad un i un sy’n awr o hyd ac yn gwbl gyfrinachol gydag aelod o dîm Cysylltwyr Fferm a fydd yn darparu cefnogaeth ac arweiniad i chi ar wasanaethau busnes fferm perthnasol sydd ar-lein.
Yn ystod y gymhorthfa hon, gallwch dderbyn arweiniad ar amrywiaeth o wasanaethau ar-lein gan gynnwys Gwefan Llywodraeth Cymru yn ogystal â gwefan Taliadau Gwledig Cymru ar-lein.
Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, fod y cymorthfeydd wedi cael eu trefnu mewn ymateb i’r adborth gan y swyddogion datblygu sydd wedi dweud bod gan ffermwyr bryderon ynglŷn â bod yn gyfredol a dysgu am y datblygiadau diweddaraf i wasanaethau ar-lein sy’n berthnasol iddyn nhw.
“Byddai mynychu un o’r cymorthfeydd hyn, sydd wedi cael eu cyllido’n llawn, yn rhoi’r arweiniad a’r gefnogaeth rydych chi ei angen, ac yn rhoi cyfle i chi drafod unrhyw bryderon sydd gennych chi,” dywedodd Mrs Williams.
Bydd pob cymhorthfa yn dechrau am 10am, a’r apwyntiad olaf am 2:30pm. Mae’n angenrheidiol eich bod chi’n archebu eich lle o flaen llaw. Cysylltwch â Gwenan Jones ar 01970 636296 neu ebostiwch: gwenan.jones@menterabusnes.co.uk i archebu eich lle.
Dyddiadau a lleoliadau:
13/02/18 – Aberystwyth
13/02/18 – Aberhonddu
14/02/18 – Y Trallwng
15/02/18 – Rhuthun
20/02/18 – Castell NE
21/02/18 – Rhaglan
21/02/18 – Porthmadog
22/02/18 – Narberth
22/02/18 – Bodedern