Saturday, June 3, 2023
Cyngor Sir Gâr yn cynnig gwybodaeth am y cymorth gyda costau byw

Cyngor Sir Gâr yn cynnig gwybodaeth am y cymorth gyda costau byw

MAE Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cynnig gwybodaeth i’w trigolion o’r cymorth ariannol a’r cymorth i’r aelwydydd sydd ar gael.

Medd y Cyngor:

“Rydym ni’n gwybod pa mor anodd yw hi pan fo angen cymorth arnoch ond heb fod yn gwybod ble i droi – rydym am i chi wybod ein bod yma i chi.

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin dîm ymroddedig o ymgynghorwyr sydd yma i wrando a’ch helpu i wneud cais am y cymorth, y gwasanaethau a’r arian y mae’n bosibl fod gennych hawl iddynt.

Mae 2 ffordd o gael mynediad at y cymorth hwn.

Ar-lein – drwy fynd i dudalen Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi y Cyngor, lle gallwch gael gwybodaeth am amrywiaeth eang o gynlluniau cymorth neu drefnu i siarad ag ymgynghorydd

Ewch i un o’n Canolfannau HWB – yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman a siaradwch ag un o’n hymgynghorwyr HWB cyfeillgar.”

I gael help gan ymgynghorydd HWB neu i gael rhagor o wybodaeth am sut i gael cymorth, budd-daliadau a gwasanaethau, ewch i’r dudalen Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Ers mis Ebrill eleni, mae ymgynghorwyr HWB wedi cael dros 400 o geisiadau am gyngor a chymorth gan drigolion Sir Gaerfyrddin ac wedi helpu gyda cheisiadau am ystod o gynlluniau cymorth gan y Cyngor a thrydydd partïon. Ymhlith y rhain mae Bathodynnau Glas ar gyfer parcio i bobl anabl, gostyngiadau ar y Dreth Gyngor, Taliadau Annibyniaeth Personol, a grantiau i helpu rhieni i brynu hanfodion ysgol, fel gwisg ysgol.

Yn ogystal â rhoi cymorth drwy ei Ganolfannau HWB a’i dudalen ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’, bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cyfarfod â phartneriaid a rhanddeiliaid lleol i drafod a rhannu gwybodaeth, ynghyd ag arferion gorau, fel y gallwn weithio tuag at ddarparu pecyn cymorth gwirioneddol aml-asiantaeth i aelwydydd agored i niwed yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac arweinydd y Cabinet ar y maes hwn, y Cynghorydd Linda Evans:

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig bod pobl yn gwybod pa gymorth a buddion sydd ar gael iddynt wrth i’r costau byw gynyddu, sy’n effeithio arnom i gyd.

“Mae talu am fwyd, ynni, tanwydd a’r morgais, i enwi ond ychydig o’r costau cynyddol, yn flaenllaw yn ein meddyliau ni i gyd, felly mae’n hynod o bwysig bod pobl yn gallu cael mynediad at ba bynnag gymorth sydd ar gael iddynt.

“Mae’r broses o wneud cais am gefnogaeth wahanol yn gallu bod yn llethol a dyna pam rydyn ni wedi sefydlu timau HWB, yn Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin i bobl alw heibio a siarad ag ymgynghorydd. Gall ein hymgynghorwyr HWB eich arwain drwy’r prosesau gwahanol ar gyfer gwneud cais am gymorth a budd-daliadau ac efallai y gallant awgrymu canghennau eraill o gymorth nad ydych efallai’n ymwybodol ohonynt. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.

“Yn ddiweddar, mae’r cyngor wedi dechrau dosbarthu Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf Llywodraeth Cymru ac yn ddiweddarach y mis hwn, byddwn yn cynnal digwyddiad costau byw i ddod ag ystod o asiantaethau partner ynghyd i ddeall yn well beth arall mae’n bosib ei wneud ar lefel leol i gefnogi’r rhai sy’n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw.”

 

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: