MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mynd ati i gefnogi’r ymgyrch Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth (WASPI).
Cytunodd y cynghorwyr i gefnogi menywod a anwyd yn y 1950au yn Sir Gaerfyrddin yr effeithir arnynt gan y trefniadau pensiwn gwladol newydd sy’n golygu bydd yn rhaid i lawer ohonynt weithio’n hirach cyn y gallant ymddeol.
Mae’r ymgyrch genedlaethol uchel ei phroffil yn gofyn i’r Llywodraeth weithredu trefniadau pensiwn trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod yr effeithiwyd arnynt gan y deddfau pensiwn gwladol.
Rhoddwyd cynnig ar y cyd gerbron y Cyngor gan y Cynghorydd Carl Harris a’r Cynghorydd Tina Higgins, a oedd yn galw ar gynghorwyr i ychwanegu eu cefnogaeth at yr ymgyrch a chydnabod y caledi y mae llawer o fenywod bellach yn ei wynebu.
Dywedir yr effeithir ar tua 10,000 o fenywod yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd y Cynghorydd Harris, “Rydym i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio ac mae llawer o’r rhain yn dioddef caledi ariannol”
“Nod yr ymgyrch yw sicrhau trefniadau trosiannol teg. Mae’n bwysig nodi nad yw’r menywod a gafodd eu geni yn 1950au yn gofyn am driniaeth arbennig, ond yn hytrach chwarae teg. Nid yw pensiwn y wladwriaeth yn fudd-dal, mae’n hawl am oes o waith caled.”
Ychwanegodd: “Hoffwn dalu teyrnged i fenywod WASPI yn Sir Gaerfyrddin sy’n gweithio’n galed iawn ar yr ymgyrch hon.”
Dywedodd y Cynghorydd Tina Higgins ei bod yn falch o weld bod yr ymgyrch wedi denu consensws trawsbleidiol yn Sir Gaerfyrddin ac ar draws Cymru.
“I lawer o fenywod mae’r penderfyniad i oedi eu pensiwn wedi bod yn syndod iddyn nhw,” dywedodd.
“Nid yw llawer ohonynt, am resymau afiechyd, yn gallu gweithio’r blynyddoedd ychwanegol y mae’r Llywodraeth yn gofyn iddynt eu gwneud. Mae rhai menywod yn y sefyllfa hon hyd yn oed yn gorfod defnyddio banciau bwyd.
“Mae’n rhaid i ni wneud popeth y gallwn i gefnogi ymgyrch WASPI.”
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole: “Ryw’n gwbl gefnogol i’r cynnig. Rydym yn gwrthwynebu anghyfiawnder.”
Roedd y cynnig llawn, y gytunwyd arno yn unfrydol gan y Cyngor yn nodi:
Bod Cyngor Sir Caerfyrddin
- Yn cydnabod yr ymgyrch Menywod erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth (WASPI);
- Yn cydnabod bod llawer o fenywod Sir Gaerfyrddin, a gafodd eu geni yn y 1950au, bellach yn wynebu heriau aruthrol wrth geisio cael dau ben llinyn ynghyd;
- Yn gwerthfawrogi nad yw menywod WASPI yn dymuno gostwng oedran pensiwn y wladwriaeth, ond yn hytrach yn dymuno cael trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod yr effeithiwyd arnynt gan ddeddfau’r pensiwn gwladol;
- Yn penderfynu cefnogi’r ymgyrch WASPI a chyflwyno sylwadau ar ran menywod Sir Gaerfyrddin i Lywodraeth y DU
Gallwch wylio’r ddadl yn llawn ar-lein: http://www.carmarthenshire.public-i.tv/site/mg_bounce.php?mg_a_id=13120&mg_m_id=1433