GALL clybiau chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin sy’n wynebu caledi ariannol neu wynebu cau oherwydd effaith y coronafeirws wneud cais am gyllid argyfwng gan Chwaraeon Cymru.
Mae’r corff chwaraeon, ynghyd â Llywodraeth Cymru, yn darparu £400,000 o gyllid argyfwng i glybiau chwaraeon cymunedol di-elw nad ydynt bellach yn cael refeniw o ganlyniad i’r argyfwng.
Bydd pob clwb cymwys yn gallu gwneud cais am uchafswm o £5,000 a gellir defnyddio’r arian i dalu am ffioedd rhent, costau cyfleustodau, yswiriant, llogi cyfleusterau neu offer (lle mae cost sefydlog), gweithgareddau neu gostau na ellir defnyddio ffynonellau cyllid y Llywodraeth ar eu cyfer.
Gall clybiau yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd diweddar hefyd wneud cais os oes ganddynt gostau cyfalaf neu gostau glanhau na allant dalu amdanynt.
Mae tîm chwaraeon a hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio’n agos gyda Chwaraeon Cymru, a Chwaraeon Cymru fydd yn penderfynu ar y ceisiadau llwyddiannus.
Os oes clwb yn credu bod angen cymorth ariannol arnoch dylent anfon manylion at emergencyrelief@sport.wales
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae hyn yn newyddion i’w groesawu ac rwy’n siŵr y bydd rhai o glybiau chwaraeon y sir sy’n dibynnu ar refeniw i gynnal eu clybiau yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth yma. Mae hwn hefyd yn gyfnod anodd i sefydliadau chwaraeon cymunedol a sefydliadau gweithgarwch corfforol sy’n ceisio cadw eu pennau uwchlaw’r dŵr, felly bydd y gronfa hon yn helpu’r rhai nad ydynt yn gallu bodloni eu rhwymedigaethau ariannol o ganlyniad i’r coronafeirws.
Ni ellir defnyddio’r gronfa argyfwng ar gyfer costau ôl-weithredol yr aed iddynt cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi’r cyfyngiadau symud o 24 Mawrth.
Mae’r sefydliadau sy’n gymwys i gael cyllid yn cynnwys:
- Clybiau chwaraeon di-elw lleol.
- Sefydliadau yn y sector gwirfoddol a chymunedol sy’n darparu neu’n galluogi chwaraeon a/neu weithgarwch corfforol, gan gynnwys sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau chwaraeon yn unig neu’n bennaf, ac sydd â rôl bwysig i’w chwarae o ran cadw pobl yn egnïol, y bydd o bosibl angen cymorth er mwyn cadw rhannau eraill o’u sefydliad ar agor.
- Ymddiriedolaethau elusennol bach nad ydynt yn gymwys i gael cymorth ariannol o ffynonellau eraill.
- Cyrff rhanbarthol sydd mewn perygl o galedi ariannol.
More Stories
Cynllun buddsoddi £138m i dde-orllewin Cymru
Cyngor Sir Gar yn cynnig cyfleoedd gyrfa drwy Academi Gofal newydd
£4m i helpu pobl â chostau tanwydd sy’n cynyddu’n ddiddiwedd