
MAE Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno na fydd y dŵr ar Draeth y Dwyrain, Porth Tywyn yn cael ei samplu mwyach gan y Cyngor Sir.
Gwnaed y penderfyniad i gwtogi ar raglen monitro dŵr y Cyngor – sef swyddogaeth anstatudol – yn ei gyfarfod ar ddydd Llun (Hydref 23 2017).
Mewn adroddiad a roddwyd gerbron yr Aelodau gan Robin Staines, Pennaeth Tai, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Darparwyr, dywedwyd bod samplu ond yn rhoi cipolwg ar ansawdd y dŵr ar yr adeg benodol y cymerir y sampl.
Gan ei bod hi’n cymryd 48 awr, o leiaf, i gael canlyniadau i’r profion mewn labordy, mae’r canlyniadau ond yn berthnasol i sefyllfa’r dŵr rai dyddiau ynghynt. Yn achos Porth Tywyn, sef moryd lle mae ansawdd y dŵr yn newid yn gyflym gyda’r llanw, gall y canlyniadau fod yn gamarweiniol.
Cyn y penderfyniad, roedd dŵr yn cael ei samplu yn Nhraeth y Dwyrain, Porth Tywyn a Doc y Gogledd, Llanelli, sef dau draeth nad ydynt wedi’u dynodi’n ffurfiol ond sy’n hysbys fel mannau poblogaidd ar gyfer ymdrochi yn y dŵr.
Bydd Doc y Gogledd yn parhau i gael ei samplu am ei fod yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd ar gyfer chwaraeon a hamdden ac oherwydd nad effeithir arno gan lif y llanw.
Ni fydd y penderfyniad hwn yn effeithio ar y traethau a ddynodwyd ar gyfer ymdrochi yn Sir Gaerfyrddin – Pentywyn a Chefn Sidan, Pen-bre – oherwydd maen nhw’n cael eu monitro’n wythnosol gan Gyfoeth Naturiol Cymru rhwng mis Mai a mis Medi.
Nid yw’r traethau eraill nad ydynt wedi’u dynodi yn y sir yn cael eu samplu oherwydd ni ddylai nofwyr fynd ar eu cyfyl gan fod problemau hysbys ag ansawdd y dŵr, cerrynt cryf, banciau tywod a fflatiau llaid.
Cytunodd Aelodau’r Bwrdd Gweithredol y dylid adolygu’r arwyddion a geir ar draethau o amgylch y sir, gan gyfeirio nofwyr at draethau sydd wedi’u dynodi ar gyfer ymdrochi.
I wylio’r ddadl lawn a chael golwg ar y dogfennau sydd ar agenda’r drafodaeth hon yn y Bwrdd Gweithredol, ewch i’r adran sy’n ymwneud â’r Cyngor a democratiaeth ar wefan y Cyngor – www.sirgar.llyw.cymru