CYN bo hir gallai Sir Gaerfyrddin fod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gofal trwy gymorth technoleg, gan alluogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi am gyfnod hwy.
Mae Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir wedi cytuno i greu cwmni cyfyngedig a fydd yn darparu cymorth rownd y cloc i bobl sydd am fyw yn eu cartrefi eu hunain, ond sydd angen cefnogaeth er mwyn gwneud hynny.
Bydd Llesiant Delta Wellbeing yn disodli gwasanaeth Llinell Gofal presennol y Cyngor, ac, yn ogystal â diogelu swyddi a chreu cyfleoedd cyflogaeth newydd, bydd yn rhoi i filoedd yn fwy o bobl well mynediad i gymorth ar ffurf technoleg pan fydd ei angen arnynt.
Gan weithredu fel cwmni cyfyngedig, â Chyngor Sir Caerfyrddin yn unig gyfran-ddeiliad, bydd hefyd yn darparu gwasanaethau i’r sector preifat ac yn sicrhau ffynonellau incwm newydd i wneud y gwasanaeth yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Bydd y cwmni’n cael ei roi ar waith yn awr, a bydd tua 50 o staff y Cyngor yn cael eu trosglwyddo i’r cwmni.
Mae gwasanaeth Llinell Gofal presennol y Cyngor yn darparu gwasanaethau teleofal 24 awr i 27,000 o gartrefi ar draws ardaloedd wyth awdurdod lleol.
Hefyd mae’n ffurfio un pwynt mynediad ar gyfer yr holl ymholiadau gofal cymdeithasol, ac mae’n darparu gwasanaethau’r Awdurdod o ran gweithio ar eich pen eich hun a thrin galwadau y tu allan i’r oriau arferol.
Yn ogystal â chymryd y gwasanaeth hwn drosodd, bydd Llesiant Delta Wellbeing hefyd yn ceisio darparu gwasanaethau i farchnad llawer ehangach, gan greu llif incwm mewn modd na all y gwasanaeth Llinell Gofal presennol mo’i wneud.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Dyma gyfnod cyffrous i ni fel darparwr dwyieithog mwyaf gwasanaethau teleofal yng Nghymru. Rydym yn darparu gwasanaethau rhagorol i bobl sy’n agored i niwed yn ein cymunedau, ond dim ond 14 y cant o ddefnyddwyr ein gwasanaethau sy’n dod o Sir Gaerfyrddin. Bydd sefydlu cwmni cyfyngedig yn ein galluogi i ehangu ein gorwelion a thyfu, gan gadw ein hased fwyaf gwerthfawr, sef ein staff ymroddedig.”
Darllenwch yr adroddiad llawn a gwyliwch y gweddarllediad o’r drafodaeth yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol yma: http://democratiaeth.sirgar.llyw.cymru/ieListDocuments.aspx?CId=131&MId=1160