MAE Ysgol y Strade yn Llanelli wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cystadleuaeth Côr Ifanc y Flwyddyn BBC Songs of Praise 2018.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ddydd Sul, 4 Mawrth ym Mangor.
Ysgol y Strade yw’r unig gôr o Gymru i gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn y categori hŷn.
Bydd y côr yn cystadlu yn erbyn pedwar côr arall ac yna bydd y tri chôr fydd yn dod i’r brig yn mynd i’r rownd derfynol a fydd yn digwydd ar yr un diwrnod.
Bydd Ysgol y Strade yn perfformio dwy gân. Emyn modern ‘Prydferth Waredwr,’ sef cyfieithiad Emlyn Dole o ‘Beautiful Saviour’ gan Stuart Townsend. Yr ail gân fydd cân gospel o’r enw ‘Galw enw’r Iesu,’ cyfieithiad gan Emyr Davies o ‘Calling on my Jesus’ gan Robert DeWell.
Yr arweinydd yw Christopher Davies, pennaeth cerdd yn yr ysgol a Llŷr Simon fydd yn cyfeilio i’r côr, sef cyn-ddisgybl yn yr ysgol.
Mae gan y côr 60 o aelodau ond yn sgil rheolau’r gystadleuaeth, 40 disgybl fydd yn teithio i Fangor ar gyfer y gystadleuaeth y penwythnos hwn.
Dywedodd Christopher Davies, yr Arweinydd: “Mae’r côr wedi bod yn ymarfer yn galed iawn ac rydym yn edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn ein categori.”
Mae’r côr yn gyfarwydd iawn â llwyddiant oherwydd yn 2009, aeth i rownd derfynol Cystadleuaeth Côr Cymru; yn 2011, daeth y côr yn ail yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen; yn 2012, daethant yn ail yn y categori uwchradd yng Nghystadleuaeth Côr Ysgol y Flwyddyn BBC Songs of Praise; yn 2013, aethant i rownd gyn-derfynol yr un gystadleuaeth a chipio’r ail wobr yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
Yn 2016, daeth y côr yn ail yn y gystadleuaeth Corau Amatur ym Manceinion.
Maen nhw wedi perfformio ar nifer o raglenni teledu gan gynnwys Noson Lawen; Dechrau Canu, Dechrau Canmol ar S4C yn ogystal â pherfformio mewn eisteddfodau lleol.
Yn ogystal, mae’r côr yn ddiweddar wedi cyflwyno siec o £1,750 i Uned Gofal y Fron yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg: “Mae hwn yn gyflawniad gwych nid yn unig i Ysgol y Strade ond i Sir Gaerfyrddin hefyd. Rwy’n cymeradwyo llwyddiannau cerddorol enfawr y sir. Carwn ddymuno lwc dda i Ysgol y Strade y penwythnos hwn.”