Thursday, March 23, 2023
Cofiwch – bydd diwrnodau casglu biniau yn newid dros gyfnod y Nadolig

Cofiwch – bydd diwrnodau casglu biniau yn newid dros gyfnod y Nadolig

Mae trigolion yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hatgoffa y bydd newidiadau i’r casgliadau sbwriel/deunyddiau ailgylchu dros gyfnod y Nadolig.
Bydd y casgliadau fel a ganlyn:

Diwrnod Casglu Arferol
Diwrnod Casglu dros gyfnod y Nadolig

 

 

 

Bydd y trefniadau casglu arferol ar waith bob diwrnod arall. Yn ogystal mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar gwsmeriaid gwasanaeth gwastraff masnach y cyngor. Mae llawer mwy o sbwriel yn dueddol o gael ei gynhyrchu ar yr adeg hon o’r flwyddyn felly mae pobl yn cael eu hannog i geisio ailgylchu cymaint â phosibl. Dylid defnyddio bagiau glas i ailgylchu eich holl boteli plastig, caniau a ffoil e.e. casys mins peis, cardbord, papur lapio a chardiau. Dylai unrhyw wastraff bwyd Nadolig fynd yn eich biniau bwyd gwyrdd ar gyfer compostio.

Gellir ailgylchu poteli a jariau gwydr mewn banciau ailgylchu gwydr; ewch i’r tudalennau ailgylchu ar sirgar.llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydym eisiau atgoffa pobl ynghylch y newidiadau i’r casgliadau dros gyfnod y Nadolig. Yn ogystal mae’n bwysig atgoffa pobl am y bagiau glas fydd yn cael eu dosbarthu. Y gobaith yw y bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i bobl ailgylchu mwy fyth.

“Byddem hefyd yn annog pobl i ddefnyddio’r biniau bwyd oherwydd gwastraff bwyd yw swm sylweddol o’r gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi ar hyn o bryd.”

Hefyd, bydd newidiadau i oriau agor y canolfannau ailgylchu dros gyfnod y Nadolig.

Mae Canolfannau Ailgylchu Trostre (Llanelli), Wernddu (Rhydaman), Nant-y-caws (Caerfyrddin) a Hendy-gwyn ar Daf ar gau Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Mae’r Canolfannau ar agor rhwng 8.30am a 12 canol dydd Noswyl Nadolig a Nos Galan a bydd oriau arferol yn berthnasol ar bob diwrnod arall.

Bydd y rheiny sy’n ailgylchu eu coeden Nadolig yn unrhyw un o’r canolfannau yn derbyn bag o Gompost Hud Myrddin am ddim.

· I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.sirgar.llyw.cymru

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: