MAE Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cefnogi cynigion i brydlesu Harbwr Porth Tywyn i gwmni rheoli arbenigol gyda golwg ar sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir.
Heddiw bu Aelodau’n ystyried cynigion gan The Marine Group, sydd am fuddsoddi yn yr harbwr a’i reoli fel marina o’r radd flaenaf.
Dywedodd y cwmni y gallai greu nifer o swyddi drwy gefnogi a buddsoddi mewn gwasanaethau megis atgyweirio cychod a pheirianneg, cyfleusterau ail-lenwi â thanwydd a theclyn codi cychod. Byddai hyn o gymorth o ran rhedeg yr harbwr o ddydd i ddydd ac yn ei helpu i gystadlu ag eraill o amgylch y DU.
Hefyd cynigir atebion cynaliadwy ar gyfer carthu’r harbwr a’r sianel fynediad.
Byddai cam o’r fath yn helpu’r Cyngor i fynd i’r afael â’r heriau parhaus o ran cynnal a chadw a rheoli mewn modd cynaliadwy, yn ogystal â chynnig gwell cyfleusterau a denu mwy o ddefnyddwyr.
Hefyd byddai’n datblygu rhagor ar yr harbwr fel rhan o’r prif gynllun adfywio ar gyfer yr ardal, gan ei gysylltu â datblygiadau ar y tir megis prosiectau adeiladu hamdden a phreswyl.
Dywedodd y cwmni y byddai’n hoffi addasu a helaethu adeilad presennol yr RNLI, wedi i’r ganolfan cwch achub newydd gael ei chwblhau, er mwyn darparu swyddfa newydd ar gyfer rheoli’r marina, gydag ystafelloedd newid modern, caffi a bwyty. Mae’r cwmni’n awyddus hefyd i weithio gyda’r gymuned leol a chefnogi busnesau lleol.
Byddai’r trefniant tymor hir yn golygu y byddai’r awdurdod yn elwa’n ariannol ac yn sicrhau bod ganddo ffrwd refeniw.
Mae’r Bwrdd Gweithredol wedi cefnogi’r cynnig mewn egwyddor a bellach bydd y Cyngor yn negodi telerau terfynol y brydles ac yn cwblhau’r gwiriadau diwydrwydd gofynnol.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae angen inni ddod o hyd i atebion tymor hir ar gyfer dyfodol Harbwr Porth Tywyn fel marina deniadol o safon, sy’n gwbl weithredol. Mae cael cwmni rheoli arbenigol yn ategu ein dyheadau ar gyfer pawb sy’n defnyddio’r marina – y rhai sy’n defnyddio’r cyfleusterau morol a’r rhai sydd am ei fwynhau fel rhan o’n cynnig twristiaeth ehangach.
“Mae’n rhaid i ni gael hyn yn iawn, felly byddwn ni’n cymryd pwyll wrth negodi’r telerau er mwyn sicrhau taw hwn yw’r opsiwn gorau ar gyfer y dyfodol.”