MAE Cyngor Sir Caerfyrddin yn galw ar fwy o bobl yn y sir i ystyried maethu.
Mae angen cannoedd o deuluoedd maeth newydd bob blwyddyn yng Nghymru i ofalu am blant o bob oedran, yn enwedig grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant hŷn a phobl ifanc, plant ag anghenion ychwanegol, a phlant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches.
Mae'r galw newydd yn cael ei wneud i gyd-fynd â Phythefnos Gofal Maeth (10-24 Mai) - sef ymgyrch recriwtio a chodi ymwybyddiaeth genedlaethol gan y Rhwydwaith Maethu.
Mae hefyd yn dilyn blwyddyn heriol o ran y pandemig coronafeirws, lle mae angen cymorth ar lawer o blant a phobl ifanc ledled Cymru yn fwy nag erioed o'r blaen.
I gefnogi Pythefnos Gofal Maeth, gofynnir i bobl ledled Sir Gaerfyrddin roi lamp yn eu ffenestr flaen ddydd Iau (20 Mai) i 'daflu goleuni' ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan ofalwyr maeth yr Awdurdod Lleol ac i ddathlu eu hymdrechion i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc.
Bydd adeiladau ledled Cymru, gan gynnwys Neuadd y Sir a Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin, Theatr y Ffwrnes yn Llanelli a Theatr y Glowyr yn Rhydaman hefyd yn cael eu goleuo'n oren i dynnu sylw at y gwaith arbennig y maent yn ei wneud.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Wasanaethau Plant: "Mae gofalwyr maeth yn rhoi cymorth, cariad a sefydlogrwydd o ddydd i ddydd i blant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu byw gyda'u teuluoedd biolegol.
"Er bod llawer ohonom efallai wedi bod yn anhapus ynglŷn â threulio'r rhan fwyaf o'r flwyddyn ddiwethaf gartref, ni all rhai pobl ifanc ond dychmygu cael yr ymdeimlad o ddiogelwch a chysur y mae ein cartref wedi ei roi i ni." Yn syml iawn, mae'n rhywbeth a all ymddangos y tu hwnt i gyrraedd rhai plant a phobl ifanc. Mae gan lawer o bobl yn Sir Gaerfyrddin ystafelloedd sbâr a allai fod yn lloches, gan drawsnewid bywyd plentyn a sicrhau ei fod yn ffynnu."
Os ydych yn credu y gallech wneud gwahaniaeth drwy ddod yn ofalwr maeth yn Sir Gaerfyrddin, ewch i https://maethu.canolbarthagorllewin.cymru/carmarthenshire/.
Nid oes angen i chi fod mewn perthynas, yn briod neu'n berchen ar eich cartref eich hun i ddod yn ofalwr maeth.