MAE trigolion yn cael eu hatgoffa y bydd newidiadau i’r casgliadau sbwriel/deunydd ailgylchu dros wyliau banc mis Mai.
O ddydd Llun, 7 Mai tan ddydd Gwener, 11 Mai ac o ddydd Llun, 28 Mai tan ddydd Gwener, 1 Mehefin, bydd casgliadau’n digwydd un diwrnod yn hwyrach na’r arfer. Er enghraifft, os yw eich casgliad i fod ar ddydd Llun, ni fydd yn digwydd tan ddydd Mawrth ac yn y blaen.
Yn ogystal mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar gwsmeriaid gwasanaeth gwastraff gardd a gwasanaeth gwastraff masnach y cyngor.
Bydd canolfannau ailgylchu Trostre (Llanelli), Wernddu (Rhydaman), Nant-y-caws (Caerfyrddin) a Hendy-gwyn ar Daf i gyd ar agor fel arfer dros y gwyliau banc.
Bellach mae’r canolfannau ailgylchu i gyd yn gweithredu oriau agor yr haf sef 8.30am a 7pm.
I gael gwybod pryd y bydd eich biniau’n cael eu casglu neu i gael rhagor o wybodaeth ynghylch ailgylchu, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin www.sirgar.llyw.cymru
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Cofiwch ailgylchu gan ddefnyddio eich bagiau glas. Gall eitemau fel poteli plastig, tuniau bwyd, caniau erosol, cylchgronau a chatalogau, cambrenni cotiau plastig a chardbord i gyd fynd i’r bagiau glas i’w hailgylchu. Mae gwybodaeth a chyngor ar gael ar wefan y cyngor.
“Yn Sir Gaerfyrddin, mae tua chwarter o fag du arferol yn dal i gynnwys gwastraff bwyd ac mae hanner o’r bwyd hwnnw yn dal yn ei ddeunydd pecynnu.
“Beth am leihau eich gwastraff bwyd ac arbed arian? Ewch i wefan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff i gael cyngor ynghylch osgoi gwastraff bwyd a defnyddio sbarion bwyd.
“Os oes gennych wastraff bwyd fel bagiau te, esgyrn, pilion llysiau a ffrwythau neu fasgl wyau, cofiwch roi nhw yn eich bin gwastraff bwyd sy’n cael ei gasglu bob wythnos ac yn cael ei drin a’i droi’n gyflyrydd pridd.”