Sunday, May 28, 2023
Cartref newydd i Ysgol Heol Goffa

Cartref newydd i Ysgol Heol Goffa

MAE cynlluniau ar y gweill i adeiladu cartref newydd i’r Ysgol Heol Goffa hynod o boblogaidd, sydd wedi gwasanaethu Sir Gaerfyrddin ers 50 mlynedd.

Fel rhan o ddatblygiad cyffrous y Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd ar hyd arfordir Llanelli ger Llynnoedd Delta, bydd ysgol anghenion arbennig newydd o’r radd flaenaf, gwerth £10 miliwn, i blant ag anawsterau dysgu yn cael ei hadeiladu er mwyn parhau â’r gwaith da a wneir yn Heol Goffa.

Cyhoeddwyd y newyddion mewn gwasanaeth ysgol arbennig i ddisgyblion a staff Ysgol Heol Goffa gan Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a hynny i gymeradwyaeth ysgubol gan gadw at ei addewid i ddarparu ysgol newydd o’r radd flaenaf iddynt.

Dywedodd: “Rydych chi gyd yn yr ysgol hon, sydd wedi ennill dau ddyfarniad rhagorol yn adroddiad Estyn yn 2017, yn haeddu cartref newydd.

“Does unman gwell i adeiladu cartref newydd nag ar gampws y Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd arfaethedig o’r radd flaenaf a fydd yn creu cyfleusterau hamdden a chwaraeon newydd, cyfleoedd ymchwil a busnes, addysg a hyfforddiant, yn ogystal â gwasanaethau iechyd a llesiant a llety byw â chymorth, a hynny mewn llecyn deniadol ar lan llyn.

“Yr unig feirniadaeth a roddwyd i Ysgol Heol Goffa yn Adroddiad Estyn oedd bod adeiladau presennol yr ysgol yn hen bellach. Wel, rydym yn mynd i wneud rhywbeth cyffrous am hyn y gallwn i gyd ymfalchïo ynddo.

“Rydym eisoes wedi dechrau datblygu’r cynlluniau ac mae’r gwaith yn parhau o ddifrif. Rydym yn rhagweld y bydd yr amserlen ar gyfer cyflawni’r prosiect cyffrous hwn yn barod yn 2018.”

Mae cyllid gwerth £10 miliwn wedi’i glustnodi drwy Raglen Moderneiddio Addysg y Cyngor a menter Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Gallai darpariaethau arbennig sydd eu hangen ar yr ysgol ychwanegu at y gost.

Bydd yr ysgol yn cael ei hadeiladu ger y Llynnoedd Delta ar dir y tu ôl ac ar wahân i’r Ysgol Pen Rhos newydd.

Dywedodd Mrs Nikki Symmons, Pennaeth yr ysgol: “Ar ôl blwyddyn arbennig lle nid yn unig yr ydym wedi dathlu 50 mlynedd yr ysgol ond hefyd wedi llwyddo i gael dau statws rhagorol yn Adroddiad Estyn, mae clywed y byddwn bellach yn cael adeilad ysgol o’r radd flaenaf yn goron ar y cyfan. 

“Mae hyn yn gydnabyddiaeth o waith caled ac ymroddiad staff yr ysgol sy’n adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan ein rhagflaenwyr yn Ysgol Heol Goffa.  Ar hyn o bryd, mae gennym 85 o ddisgyblion yn yr ysgol, sydd wedi gweithio mor galed eleni ac maen nhw wrth eu boddau â’r syniad o gael ysgol newydd.  Bydd yr ysgol newydd yn darparu addysg i oddeutu 120 o ddisgyblion a bydd angen o leiaf 80 o staff addysgu a staff cynorthwyol.”

Ychwanegodd Owen Jenkins, Cadeirydd y Llywodraethwyr: “Dangosodd Cyngor Sir Caerfyrddin weledigaeth a menter gwych wrth agor yr ysgol hon 50 mlynedd yn ôl.  Rydym bellach yn edrych ymlaen at weithio gyda’r awdurdod a’r gymuned ysgol gyfan i gefnogi breuddwydion a dyheadau ein disgyblion, a hynny mewn lleoliad y maen nhw’n ei haeddu.  Bydd hyn hefyd yn galluogi i ni barhau â’n gwaith arloesol o oleuo’r ffordd i eraill ym maes addysg arbenigol a thu hwnt”.

Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n arwain y Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd gwerth £200 miliwn, mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd Hywel Dda ac Abertawe Bro Morgannwg a Phrifysgol Abertawe. Mae hefyd yn brosiect allweddol ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe ac, yn amodol ar gyflwyno achos busnes, bydd yn derbyn £40 miliwn fel rhan o’r £1.3 biliwn o gyllid a fuddsoddir yn y Fargen Ddinesig.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad gwerth £1.3 biliwn a fydd yn trawsnewid tirwedd economaidd yr ardal gan roi hwb o £1.8 biliwn i’r economi leol a chreu bron i 10,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae partneriaid Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cynnwys pedwar awdurdod lleol, sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Dinas Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro, ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chwmnïau o’r sector preifat.

Adroddiad Estyn: https://www.estyn.llyw.cymru/darparwr/6697000?_ga=2.100251742.1555879631.1511172743-157914609.1484241432

Arfer Dda Estyn: https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/partneriaethau-rhyngwladol-sy%E2%80%99n-ehangu%E2%80%99r-cwricwlwm-ac-yn-darparu-profiadau-dysgu?_ga=2.168930722.220541587.1511774620-837529796.1494510447

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: