MAE awdurdodau yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ceisio sylwadau mewn perthynas â’u strategaeth newydd ynghylch mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae pobl sydd wedi goroesi trais a chamdriniaeth, teuluoedd a ffrindiau, unigolion neu sefydliadau sy’n gweithio gyda goroeswyr neu’r rhai sy’n cam-drin, neu unrhyw un sydd â barn yn gyffredinol, yn cael eu hannog i dweud eu dweud wrth i waith datblygu’r strategaeth gyrraedd y cam olaf.
Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff sector cyhoeddus weithio gyda’i gilydd i wella’r canlyniadau ar gyfer unigolion a’u teuluoedd y mae camdriniaeth yn effeithio arnynt.
Mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn y rhanbarth wedi drafftio eu strategaeth ar y cyd gyntaf i amlinellu sut y byddant yn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr, mynd i’r afael â’r rhai sy’n cam-drin, sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol y dulliau a’r wybodaeth i weithredu a chynyddu ymwybyddiaeth o’r materion.
Mae’r strategaeth hefyd yn ceisio helpu plant a phobl ifanc i ddeall anghydraddoldeb mewn perthynas a gwybod bod ymddygiad camdriniol bob amser yn anghywir.
Mae’r strategaeth ddrafft wedi’i chyhoeddi at ddibenion ymgynghori ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin, www.sirgar.llyw.cymru
Gall pobl rannu eu barn ynghylch y strategaeth a’r gwahaniaeth y gallai ei gwneud tan 28 Mehefin.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn un o flaenoriaethau allweddol rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Rydym am sicrhau ein bod yn cael y strategaeth hon yn iawn, ac yn annog unrhyw un sydd â phrofiad neu farn i ddweud ei ddweud.”