Ymunwch a Cyswllt Ffermio yn ein digwyddiadau Gwneud bywoliaeth ar 10 erw er mwyn dysgu mwy am sut gallwch ddatblygu bywoliaeth yn y maes arddwriaeth.
Os ydych yn ystyried arallgyfeirio i arddwriaeth, neu’n arddwr profiadol sy’n ystyried mentro’n bellach, ymunwch â ni i ddysgu sut allwch ddechrau busnes llwyddiannus yn y maes, datblygu eich hobi i mewn i fusnes proffidiol neu ddatblygu eich busnes presennol. Yn y sioe deithiol hon, byddwn yn trafod y cyfleoedd garddwriaeth sydd ar gael yng Nghymru gan gynnwys:
· Ffactorau allweddol i ddatblygu busnes arddwriaeth lwyddiannus
· Sut gall deng erw neu lai cynnal bywoliaeth
· Opsiynau cnydio, megis llysiau uchel eu gwerth, aeron arbenigol, perllan a gwinllan
· Tyfu trwy ddefnyddio hydroponeg
· Rhagolwg i’r dyfodol
Bydd y digwyddiad yn gyfle i chi rannu sylwadau a syniadau ac i rwydweithio. Byddwn hefyd yn clywed am brofiadau busnes llwyddiannus Robb Merchant, White Castle Vineyard.
25/10/2017 7:30 – 9:00 Living Off 10acres Grier Room, Principality House, National Botanic Garden of Wales, Middleton Hall, Llanarthne SA32 8HN