Mae disgyblion yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn Llanelli a’u rhieni yn elwa o glwb ar ôl ysgol newydd sy’n darparu gofal plant a gweithgareddau hwyliog.
Yn ddiweddar, cynhaliodd Clwb ar ôl Ysgol Bydis Brynsierfel glwb gwyliau llwyddiannus o dan reolaeth yr arweinwyr sef Mrs Manon Mainwaring a Miss Catherine Fry.
Bu disgyblion yr ysgol yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, megis coginio, chwaraeon a chreadigrwydd mewn amgylchedd hapus a diogel, dan oruchwyliaeth staff cymwysedig a gofalgar yn ystod yr haf.
Mae’r clwb ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor rhwng 3.15 a 6pm ac mae’n adnodd hanfodol ar gyfer rhieni a gofalwyr, yn enwedig y rhai sy’n gweithio ac yn chwilio am ofal plant rhad o ansawdd uchel. Ddydd Llun agorodd Ysgol Gymraeg Brynsierfel ei drysau i groesawu disgyblion i glwb Bydis Brynsierfel ar ddiwrnod HMS.
Ers cofrestru Bydis Brynsierfel gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a chael dau arolygiad trylwyr gan swyddogion AGGCC, mae teuluoedd ar incwm isel yn gymwys i gael cymorth â chyllid. Mae rhai proffesiynau yn caniatáu i weithwyr brynu talebau gofal plant, sydd hefyd yn helpu o ran cost y clwb.
Dywedodd Mrs Jayne Davies, y Pennaeth, “Mae pob ysgol yn cael diwrnodau Hyfforddiant mewn Swydd penodedig ac er bod y rhain yn angenrheidiol i wella sgiliau staff maen nhw’n gallu creu trafferth i rieni sydd angen cymorth o ran gofal plant.
“Mewn ymgais i gefnogi Amcanion Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin am 2017-18, ein nod yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel yw mynd i’r afael â thlodi, drwy helpu pobl i gael gwaith a gwella bywydau’r rhai sy’n byw mewn tlodi.
“Mae’r fenter newydd wedi bod yn boblogaidd ymysg disgyblion a rhieni a hoffwn ddiolch i staff Bydis Brynsierfel am eu hymroddiad a’u gwaith caled.”
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Sir Caerfyrddin: “Rwyf wrth fy modd bod Bydis Brynsierfel yn gynllun mor boblogaidd ymysg y plant a’u rhieni. Mae’n darparu gweithgareddau pleserus i’r disgyblion yn ogystal â gwneud bywyd yn haws i’w rhieni.”