Mae swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi cynigion i gau Canolfan Wasanaeth Llanelli, a Chanolfannau Gwaith y Pîl, Aberpennar a Thredegar.
Bydd y newid yn golygu colli 146 o swyddi yn Llanelli.
Dywedodd AC Plaid Cymru y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas:
“Bydd y penderfyniad i symud swyddi allan o Lanelli yn cael effaith enfawr ar y dref.
Mae’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi anwybyddu’r sgil-effeithiau i’r economi lleol . Unwaith eto, maent yn edrych ar economi’r daenlen yn unig, yn hytrach na sut y gallwn ddechrau ail-adeiladu ein cymunedau wedi llymder.
“Ers ethol y Llywodraeth newydd, rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth San Steffan, yn eu hannog i edrych eto ar yr achos dros gau swyddfeydd y DWP yn Llanelli. Y ffaith drist yw, os oes modd cael dod o hyd i lwgrwobr o biliwn o bunnoedd i’r DUP er mwyn achub Theresa May fel Prif Weinidog, yna yn sicr fe all y llywodraeth leiafrifol ddod o hyd i adnoddau ychwanegol i’r adran hon.
“Dylai’r Torïaid fod yn buddsoddi yng nghanol tref Llanelli fel y mae Cyngor Sir Gâr dan arweiniad Plaid Cymru yn wneud, nid yn tynnu swyddi allan o Lanelli.
“Bydd Plaid Cymru yn gweithio gydag eraill i ddwysáu’r ymgyrch i sicrhau’r 146 o swyddi yn y swyddfa.
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn enghraifft arall pam y cred Plaid Cymru y dylem gael y pŵer dros ganolfannau gwaith i amddiffyn rhai o’r swyddi hyn yn Llanelli ac mewn mannau eraill.
“Unwaith eto, mae ein diffyg rheolaeth yn gadael i’r Ceidwadwyr wneud fel y mynnant â chymunedau Cymru.”
Mae AC y Canolbarth a’r Gorllewin eisoes wedi codi’r mater yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos hon.