MAE cynlluniau i ddatblygu gwasanaeth gofal iechyd pwrpasol, newydd sbon ar hen safle’r Bath-house yn Aberteifi wedi cael hwb mawr ar ôl i’r bwrdd iechyd nodi’r amserlenni arfaethedig ar gyfer y cynllun.
Mae’r achos busnes llawn ar gyfer Canolfan Gofal Integredig Aberteifi yng nghamau olaf proses graffu Llywodraeth Cymru, a rhagwelir y bydd y cynllun y cael ei gymeradwyo’n ffurfiol ym mis Rhagfyr. Disgwylir y bydd y gwaith ar y safle yn dechrau ym mis Ebrill, yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol o’r achos busnes, a rhagwelir y bydd y ganolfan yn agor ddiwedd 2019.
Yn ogystal â darparu gwasanaeth gofal iechyd pwrpasol, modern ar gyfer y boblogaeth leol, bydd y ganolfan newydd yn dod â gofal yn agosach at y cartref a’r gymuned. Bydd amrywiaeth eang o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y trydydd sector, yr awdurdod lleol, a sefydliadau partner.
Bydd y manteision i’r gymuned leol yn cynnwys:
- gwella’r ffordd y mae’r amrywiol wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio ac yn cyfathrebu â’i gilydd;
- cynyddu’r amrywiaeth o glinigau a ddarperir;
- cynyddu nifer y bobl sy’n mynd i glinigau cleifion allanol;
- y potensial i gynyddu darpariaeth gwasanaeth saith niwrnod;
- cynnydd yn y gwasanaethau diagnostig, yn cynnwys asesiadau cyn llawdriniaeth; a
- gwell canlyniadau i gleifion.
Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sir Hywel Dda ar gyfer Ceredigion: “Rwy’n falch iawn fy mod yn gallu cadarnhau ein bod wedi cytuno ar y gwaith ar Ganolfan Gofal Integredig newydd Aberteifi, sydd i ddechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf, a hynny yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru. Rhagwelir y bydd y ganolfan yn agor ddiwedd 2019.
“Er bod y broses gynllunio wedi bod yn un hirfaith ar adegau, mae wedi bod yn broses hanfodol ar gyfer y prosiect o ran sicrhau ein bod yn gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf, a hoffwn ddiolch i’n holl randdeiliaid – yn enwedig y trigolion lleol, y cleifion a’n staff – am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.
“Edrychwn ymlaen at ddechrau cam nesaf y datblygiad, a byddwn yn rhoi diweddariadau pellach wrth i’r prosiect cyffrous hwn ddwyn ffrwyth.”
Ychwanegodd Bernardine Rees OBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy’n cydnabod bod poblogaeth Aberteifi wedi bod yn amyneddgar iawn, ac mae’r cyfleuster hwn yn sicr wedi wynebu heriau, ond mae’r Bwrdd Iechyd ‘nawr yn falch iawn o allu symud ymlaen â’r datblygiad pwysig hwn.
“Rydym wedi bod yn gwneud popeth sy’n angenrheidiol i sicrhau ein bod yn cael pethau’n iawn, a hoffwn dalu teyrnged i bawb a fu’n rhan o’r prosiect, a hynny am eu hymrwymiad parhaus a’u gwaith caled i sicrhau bod y ganolfan newydd yn cyflawni ein nod i ddarparu gofal integredig, cynaliadwy, diogel ar gyfer ein poblogaeth leol.”