MAE arolwg yn cael ei lansio yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni, gyda’r nod o gefnogi cymunedau gwledig ar draws Sir Gaerfyrddin.
Bydd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Faterion Gwledig, y Cyng. Cefin Campbell, yn lansio’r arolwg yn y digwyddiad ym maes y sioe yn Llanfair-ym-muallt ar 27 a 28 Tachwedd.
Mae’r Cyng. Campbell eisoes wedi sefydlu grŵp gorchwyl i fynd i’r afael â heriau ac i nodi cyfleoedd i gymunedau gwledig ledled y sir.
Ei nod fydd ystyried y materion sy’n effeithio arnynt, a pharatoi adroddiad gydag argymhellion ynghylch sut y gall y cyngor, mewn partneriaeth â chyrff a sefydliadau eraill, weithredu i sicrhau bod yna adfywiad dros y blynyddoedd i ddod.
Bydd y gweithgor trawsbleidiol, sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Blaid Cymru, y Blaid Lafur a’r Grŵp Annibynnol, yn gwneud gwaith ymchwil ac yn ymgynghori ag ystod mor eang â phosibl o randdeiliaid er mwyn adnabod y materion penodol sy’n effeithio ar gymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin.
Mae’r arolwg yn rhan o’r broses ymgynghori a bydd yn gofyn am farn y bobl ynghylch yr heriau sy’n eu hwynebu. Bydd hefyd yn gofyn iddynt nodi unrhyw gyfleoedd posibl i wneud gwelliannau.
Ni fydd yn dod i ben tan 30 Mawrth 2018, er mwyn rhoi digon o amser i bobl o bob cwr o Sir Gâr gyflwyno eu barn.
Gall pobl gymryd rhan ar-lein drwy fynd i www.sirgar.llyw.cymru neu drwy ffonio’r ganolfan gyswllt ar 01267 234567 i gael copi papur.
Dywedodd y Cynghorydd Cefin Campbell: “Rydym yn hynod ffodus fod gennym lu o ardaloedd gwledig godidog, ond rwy’n sylweddoli y gall heriau penodol fod yn perthyn i fyw yng nghefn gwlad.
“Mae’n hanfodol ein bod yn casglu cymaint o wybodaeth ag y gallwn cyn llunio cynllun gweithredu i helpu i unioni unrhyw faterion, ac i nodi cyfleoedd a all wella ansawdd bywyd ar gyfer y cymunedau hyn.
“Rydym ni’n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn manteisio ar y cyfle hwn i ddweud wrthym am unrhyw broblemau maen nhw’n eu hwynebu wrth fyw yn ein cymunedau gwledig.
“Mae Sir Gaerfyrddin yn sir wledig fawr ac mae 60% o’n poblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig, ac mae gan bob cymuned ei hanghenion penodol ei hun.
“Byddwn ni’n ceisio datblygu ein trefi marchnad dros y blynyddoedd nesaf, ynghyd â’r themâu allweddol rydym yn gweithio arnyn nhw.
“Rydym ni wedi ymrwymo i helpu pob rhan wledig o’r sir, ac i wneud hynny mae angen inni gael barn y bobl er mwyn llunio’r cynllun gweithredu gorau posibl.”
Bydd y Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig yn ystyried materion megis adfywio economaidd (yn cynnwys swyddi, hyfforddiant a sgiliau), amaethyddiaeth, gwasanaethau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, trafnidiaeth, twristiaeth, addysg, tai, Brexit, cysylltiad band eang a ffonau symudol, symudiadau’r boblogaeth, y Gymraeg, ac unrhyw faterion eraill sy’n codi wrth i’r trafodaethau fynd rhagddynt.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig, ac am sut y gall pobl sydd â diddordeb mewn cyfrannu at y drafodaeth gymryd rhan, drwy fynd i dudalen ymgynghori’r Cyngor ar y wefan neu drwy anfon neges e-bost at Ymgynghori@sirgar.gov.uk