Monday, March 20, 2023

Arbed gofal seibiant a meysydd eraill rhag toriadau

MAE nifer o arbedion arfaethedig a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin at ddibenion ymgynghori cyhoeddus wedi cael eu tynnu’n ôl gan ei Fwrdd Gweithredol.

Mae’r Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, wedi cadarnhau na fydd y toriadau arfaethedig yn y gyllideb i’r gwasanaethau cynhwysiant ac i ofal seibiant yn cael eu hystyried mwyach, ac y byddant yn cael eu dileu o’r adroddiad a gyflwynir i’r Cyngor Llawn benderfynu yn ei gylch am 21 Chwefror.

Ailystyrir hefyd y bwriad i gwtogi’r cyllid ar gyfer gwasanaethau gofal dydd i bobl hŷn, gan leihau’r arbedion effeithlonrwydd a gynigiwyd am 2018/19 gan £50k, a £25k pellach yn 2019/20.

Croesewir y newyddion gan filoedd o bobl a roddodd adborth i’r Cyngor yn ystod ymgynghoriad helaeth ynghylch y gyllideb dros gyfnod o wythnosau.

“Roedd y setliad eleni yn llawer mwy ffafriol a chefnogol i lywodraeth leol na’r hyn oedd wedi’i ragweld yn wreiddiol,” meddai’r Cynghorydd David Jenkins.

“Mae hyn wedi golygu ein bod wedi gallu edrych eilwaith ar rai o’n cynigion yn y gyllideb amlinellol wreiddiol. Rydym ni wedi rhoi ystyriaeth i’r broses ymgynghori ac ymateb i’r adborth ynghylch y cynigion nad oedd cefnogaeth iddyn nhw.

“Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gymryd rhan yn yr ymgynghoriad neu ymateb i’r arolygon. Un peth sy’n glir yn gyffredinol gan y rhai oedd wedi cymryd rhan yw eu bod yn sylweddoli bod angen gwneud dewisiadau anodd.”

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor: “Mae pennu cyllidebau yn dasg enfawr, ond mae wedi cael ei gwneud mewn ffordd gydwybodol iawn. Mae’n dangos ein bod wedi gwrando.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: “Rydym ni wedi gweld sut mae pobl wedi ymateb. Mae pobl wedi rhoi sylwadau manwl ac mae eu syniadau’n aml iawn wedi arwain at ffyrdd newydd o weithio, ac rwyf am ddiolch iddyn nhw am hynny.”

Roedd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a’r Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant, ill dau yn croesawu’r newyddion na fyddai’r arbedion arfaethedig yn effeithio mwyach ar y ddarpariaeth gofal seibiant.

“Rydym ni wedi gwrando ar y bobl,” dywedodd y Cynghorydd Davies. “Mae’r ddarpariaeth gofal seibiant mor bwysig i deuluoedd sydd dan lawer o straen yn aml.   Rwy’n hynod falch ein bod wedi ailystyried hyn, ac na fydd y toriad hwn yn digwydd.”

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: