ANOGIR trigolion ardal Llanymddyfri i fanteisio ar gyfle unwaith yn unig i waredu eu sbwriel trydanol a hynny ar garreg y drws.
Bydd tîm gwastraff Cyngor Sir Caerfyrddin ym maes parcio Llanymddyfri ddydd Mawrth, 16 Ionawr o 12-3pm, pryd bydd trigolion yn gallu mynd â hen eitemau trydanol, bach a mawr, i’w hailgylchu – o boptai ac oergelloedd i sychwyr gwallt a pheiriannau coffi.
Bydd pawb a aiff yno hefyd yn cael cyfle i fod yn rhan o raffl fawr ac i ennill talebau Amazon, gwerth £200, £100 a £50.
Dim ond eitemau domestig y mae modd mynd â nhw yno, nid peiriannau trydanol masnachol.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae hwn yn gyfle ardderchog i bobl gael gwared ar eu gwastraff trydanol, yn enwedig os oes ganddyn nhw eitemau mawr, swmpus i’w gwaredu.
“Rydym ni’n ailgylchu cymaint â phosibl, sy’n helpu i gynyddu ein cyfradd ailgylchu a lleihau’r sbwriel sy’n mynd i gladdfeydd.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.sirgar.llyw.cymru/cartref/preswylwyr/biniau-ailgylchu-a-sbwriel.