MAE tîm iechyd anifeiliaid Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael gwybod am sawl achos o Glafr y Defaid (Sheep Scab) yn yr ardal, ac mae’r tîm yn atgoffa ffermwyr na ddylai defaid sydd â’r clefyd hwn gael eu gwerthu drwy’r farchnad.
Os oes unrhyw un yn amau bod y clafr ar eu defaid, cynigir archwilio samplau o ectoparasitau defaid am ddim yng Nghymru tan 31 Mawrth.
Bydd y cynllun, sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn helpu â chywirdeb wrth ddiagnosio, sy’n hanfodol er mwyn trin ectoparasitau dafadaidd yn briodol a’u rheoli’n llwyddiannus.
Mae rheoli clafr y defaid yn well yn flaenoriaeth gan Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.
Cynhelir profion yn y Ganolfan Ymchwilio Milfeddygol ar gyfer Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yng Nghaerfyrddin.
Caiff samplau eu derbyn yn y ffordd arferol, drwy filfeddyg, a dylid eu postio’n uniongyrchol i’r Ganolfan Ymchwilio Milfeddygol yng Nghaerfyrddin. Rhaid cyflwyno’r hanes clinigol llawn gyda’r samplau er mwyn bod yn gymwys i gael profion am ddim.
Gweler manylion cyswllt Canolfan Ymchwilio Meddygol Caerfyrddin yma: http://ahvla.defra.gov.uk/vet-gateway/surveillance/diagnostic/national-network.htm#carm