Mae Simon Thomas AC yn galw i luoedd Cymreig beidio plismona anghydfodau ffracio yn Lloegr.
Dywed Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gweledig Simon Thomas:
“Mae gwleidyddion o wahanol bleidiau wedi gwneud y penderfyniad i wahardd ffracio unwaith y byddwn yn derbyn y pwerau.
“Dylai pob corff cyhoeddus, boed rheiny wedi eu datganoli neu beidio, barchu penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol.”
“Rwyf wedi ysgrifennu at bob Comisiynydd yr Heddlu yng Nghymru i ofyn wrthyn nhw ymatal rhag defnyddio’u gweithwyr i blismona anghydfodau am ffracio yn Lloegr.
“Mae’r mater hwn, a llawer o rai eraill, yn dangos yr angen i’r pwerau dros yr heddlu a chyfiawnder troseddol gael ei ddatganoli i Gymru.”
Ychwanegodd Comisiynydd Heddlu a Throseddau Gogledd Cymru, Arfon Jones:
“Rwy’n gwrthwynebu ffracio ac rwyf wedi perswadio Heddlu Gogledd Cymru i beidio darparu cefnogaeth ar y cyd gyda Heddlu Swydd Gaerhifyn i hwyluso Cuadrilla i ffracio yn Preston New Road. Ni ddylai Swyddogion Heddlu Cymru gael eu defnyddio fel gwarchodwyr diogelwch gogoneddus i hwyluso gweithgaredd yr wyf yn hyderus y bydd yn anghyfreithlon yn y misoedd i ddod. Rwy’n gobeithio y bydd fy nghydweithwyr yng Nghymru yn cytuno â Simon Thomas ac yn atal ffynonellau o safleoedd ffracio yn Lloegr!”