Monday, March 20, 2023
AC yn cefnogi gweithredu ar newid hinsawdd

AC yn cefnogi gweithredu ar newid hinsawdd

MAE Simon Thomas wedi gwneud safiad i ddangos ei [gefnogaeth/chefnogaeth] ar gyfer ymgyrch #SafiadCymru gan Atal Anrhefn Hinsawdd Cymru.

Y llynedd, roedd cannoedd o bobl a’u hanifeiliaid anwes ar draws Cymru wedi rhannu lluniau o’u safiad am Gyfrifoldeb Byd-eang Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol. O droednoeth ar dywod i gŵn yng nghoedwigoedd, fe wnaethon nhw sefyll yn y mannau y maent yn eu caru ac eisiau eu diogelu i gefnogi’r rhai sy’n wynebu effeithiau andwyol o’r newid hinsawdd sydd ar draws y byd nawr.

Dywedodd Simon Thomas, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:

“Rwy’n cefnogi Cymru’n gwneud safiad yn erbyn newid hinsawdd, i fod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang.

“Rydym yn gwybod bod newid hinsawdd eisoes yn cael effaith enfawr ar gymunedau ar draws y byd, a bydd yn cael effaith enfawr ar y ffordd yr ydym i gyd yn byw ein bywydau, ond os yw unigolion yn gwneud safiad, ac os yw gwleidyddion yn cymryd camau brys, gallwn helpu i fynd i’r afael â hi.

“Rydw i’n annog pawb i wneud safiad yn erbyn newid hinsawdd a dangos eu cariad i Gymru a’r blaned.”

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: