DDYDD Gwener 10 Awst am 11:00 y bore ar faes Eistedd Genedlaethol Caerdydd bydd dwy o arloeswyr a hoelion wyth dyddiau cynnar Mudiad Meithrin yn cael eu hurddo gan Orsedd y Beirdd am eu cyfraniad at hybu iaith a diwylliant Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Ymysg y rheiny sydd yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl mae Margarette Hughes,  Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gâr a Carole Willis, Y Groesfan, Pontyclun, Rhondda Cynon Taf.

Mae Margarette wedi gweithio’n ddiwyd dros addysg feithrin yn yr ardal ers iddi sefydlu Ysgol Feithrin yn ei chartref ym 1970 pan roddodd y gorau i’w gyrfa fel athrawes am gyfnod i fagu teulu.

Dywedodd Margarette:

Cefais f’ysbrydoli i agor Ysgol Feithrin gan Margaret Rosser, oedd wedi dechrau Ysgol Feithrin ym Mhentre’r Eglwys ger Pontypridd ym 1964 pan oeddwn i’n dysgu yn yr ysgol gynradd leol.

“Ar ôl symud i Hendy-gwyn ar Daf penderfynais ddechrau’r Ysgol Feithrin yn fy nghartref oherwydd doedd dim darpariaeth i blant yr ardal ar y pryd. Roedden ni’n codi deg ceiniog y bore i’r plant ddod am gyfnod o ddwy awr i chwarae gyda theganau yn y parlwr, paentio yn y gegin a chwarae gyda thywod yn yr haulfan ac amser stori yn y lolfa. Wrth gwrs roeddwn i a’r gwirfoddolwyr eraill yn gorfod treulio’r prynhawniau’n clirio’r annibendod heb sôn am geisio cynnal yr Ysgol Feithrin drwy gynnal stondin gwerthu dillad ail law ym marchnad Caerfyrddin ymysg gweithgareddau codi arian eraill. 

“Ar y pryd dim ond saith o blant oedd yn mynychu’r Ysgol Feithrin ond ymhen hir a hwyr bu’n rhaid inni symud i’r Neuadd Goffa yn y dref am fod gymaint o blant yn ymuno â’r Ysgol Feithrin.”

Yn ystod y cyfnod hwn cafodd Margarette ei hethol fel Llywydd Mudiad Ysgolion Meithrin yn Sir Gâr. Hi hefyd drefnodd fod meithrinfa cyfrwng Cymraeg ar gael ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf pan ymwelodd yr Ŵyl â Chaerfyrddin ym 1974.

Ar y pryd y Women’s Royal Voluntary Service (WRVS) oedd yn rhedeg y crèche yn flynyddol yn yr Eisteddfod. Wrth gwrs roeddwn i am i’r gwasanaeth fod yn un Gymraeg ei naws. Yn dilyn trafodaethau fe lwyddon ni ddarbwyllo’r WRVS i rannu cyfrifoldeb am y feithrinfa yn ystod Eisteddfod Caerfyrddin,” meddai Margarette.

“Cawsom help gan gwmni teganau a bu Coleg y Drindod yn hael iawn i roi benthyg llithren a chyfarpar eraill ar gyfer y feithrinfa,” ychwanegodd.

Yr un flwyddyn dechreuodd Margarette roi gwersi Cymraeg i oedolion ar ôl gweld bod bwlch yn y ddarpariaeth ac mae’n parhau i gynnal tri dosbarth yn wythnosol yng Nghanolfan Hywel Dda, Hendy-gwyn ar Daf.

Dychwelodd Margarette i’w gyrfa fel athrawes gynradd ym 1976 cyn ymddeol fel prifathrawes Llanboidy yn 2002. Bu hefyd yn Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr rhwng 1988 a 1990.

Enw Margarette yn yr orsedd fydd Marged Gwyn o’r Cwerchyr, sef afon sy’n agos i’r cartref o’r un enw lle cafodd Margarette ei magu yn Aberbanc, ger Llandysul, Ceredigion.

Mae Carole Willis yn rhan hollbwysig o fywyd Cymraeg ei hardal ym Mhontyclun. Ar ôl dysgu Cymraeg a graddio yn yr iaith, treuliodd ddegawdau’n gweithio gydag eraill i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r iaith yn lleol gydag amrywiaeth eang o grwpiau, sefydliadau a mudiadau Cymreig dros y blynyddoedd ac yn eu plith mae Mudiad Meithrin.

Dywedodd Carole, fu’n dysgu yng Nghylch Meithrin Pontyclun am gyfnod yn yr 1980au:

Mae anfon eich plant i Gylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin yn ffordd ddelfrydol o roi dechreuad da iddyn nhw dderbyn addysg Gymraeg.”

Dywedodd Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Gwenllïan Lansdown Davies:

Mae’n dyled ni’n fawr i unigolion fel Margarette Hughes a Carole Willis a ymlafniodd mor galed er mwyn galluogi twf a chynnydd darpariaeth gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg gan osod y seiliau ar gyfer ein gwaith ni heddiw. Mae’n gwbl briodol bod cydnabyddiaeth deilwng i’w gwaith gan sefydliad cenedlaethol Gorsedd y Beirdd.”

, , , , , , ,
Similar Posts
Latest Posts from Llanelli Online