BYDD teuluoedd ledled y sir yn dathlu Sul y Tadau ddydd Sul, ond nid tadau biolegol fydd yr unig rai yn dathlu.

Bydd nifer o rieni mabwysiadol hefyd yn dathlu’r achlysur ar ôl rhoi cartref cariadus i blant agored i niwed.

Mae Robert* yn un o gannoedd o bobl sydd wedi mabwysiadu plentyn gyda chymorth Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru – cydweithredfa o dimoedd mabwysiadu sy’n cynnwys pedwar awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Bydd yn dathlu Sul y Tadau am y tro cyntaf eleni ar ôl iddo ef a’i wraig fabwysiadu plentyn ar ôl cael trafferth â beichiogi, ac mae wedi sôn am y ‘fraint’ y mae’n teimlo o gael bod yn dad a pham y mae’n annog eraill i wneud yr un peth.

“Gadewch i ni ddechrau gan sôn am fater sylfaenol. Ni fydda i byth yn gwybod sut y mae’n teimlo i fod yn dad i blentyn sy’n ffrwyth fy ngenynnau a DNA. Dyma ddiwedd fy llinach waed. Mae nifer o bobl wedi dweud wrthyf yn y gorffennol fod plentyn biolegol yn gyfuniad prydferth o’ch nodweddion corfforol ac yn fynegiant pennaf o’r cariad sydd rhwng pâr (er hynny, mae’r person olaf i ddweud hynny wrthyf bellach wedi ysgaru). Cafodd fy ngwraig a minnau driniaeth ffrwythlondeb er mwyn cael y delfryd amlwg hwn, ac yn y pen draw, yr anrheg a roddodd yr ymgynghorwyr inni oedd sicrwydd llwyr nad oedd y triniaeth yn mynd i lwyddo.

“Rhoddodd hyn y cyfle i ni ddilyn y llwybr mabwysiadu, a oedd wedi ein harwain at fachgen prydferth 11 mis oed yn ymuno â’n teulu. Mae wedi bod yn rhan o’n teulu am dros flwyddyn erbyn hyn, ac a bod yn onest, dydw i ddim yn gweld unrhyw wahaniaeth rhwng yr hyn y dwi’n ei wneud gyda fy nghrwt a’r hyn y mae tadau eraill yn ei wneud, na chwaith gwahaniaeth yn ein llawenydd. Rydym yn chwerthin yr un fath, yn chwarae’r un fath, yn llefain yr un fath, ac rydw i’n ei ddysgu i wneud pethau gwirion tra bo’i fam yn anobeithio. Rwyf wir yn credu fy mod yn teimlo yr un fath â nhw. Rwy’n ei garu a’m holl galon, byddwn i’n gwneud unrhyw beth i’w ddiogelu ac rwyf am sicrhau ei fod yn tyfu’n ddyn iach a chytbwys.

“Mae’n foi bach hapus ac mae’n datblygu’n dda, os rhywbeth rwy’n credu ei fod ar y blaen i blant eraill sydd yr un oed ag ef (ti’n gweld, rwy’n rhiant cystadleuol, ymffrostgar fel pob rhiant arall). Pan fyddaf yn dod adref o’r gwaith, mae’n gweiddi “Dadi” â’i freichiau ar led, ei wyneb yn llawn cyffro a’i lygaid yn llawn llawenydd, yn sicr nid yw’n amau ein perthynas glos fel tad a mab. Nid wyf am esgus bod popeth wedi bod yn rhwydd, ond mae ein perthynas priodasol wedi’i hadeiladu ar sylfeini cadarn sydd wedi helpu fy ngwraig a minnau i oresgyn yr adegau anodd. Mae’r gallu i chwerthin gyda’ch gilydd hefyd yn helpu llawer! Mae’n wir ein bod ar ddechrau ein taith fabwysiadu o gymharu â nifer o bobl eraill, ac mae profiadau pawb yn wahanol. Byddwn yn wynebu adegau anodd yn y dyfodol – rwy’n siŵr o hynny – ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth yr ydym wedi’i chael am rianta therapiwtig o ddydd i ddydd. Mae cymaint o lawenydd i ddod hefyd, drwy wylio ein crwt bach yn datblygu wrth iddo rannu ein diddordebau, gwerthoedd a’n hagwedd ar y byd.

“Yn sicr, dydw i ddim yn teimlo colled oherwydd nad oes gennyf blentyn biolegol, yn hytrach, braint yw cael dechrau teulu drwy fabwysiadu. Rwy’n siŵr pe bawn i’n treulio gormod o amser yn meddwl am yr holl agweddau sylfaenol, byddwn i’n cynhyrfu’n rhwydd. Ond, a dweud y gwir, rwy’n cael gormod o hwyl i bryderu.”

Mae gan Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru dimoedd mabwysiadu sy’n cynnwys pedwar awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Bwriad y gwasanaeth yw sicrhau bod plant yn tyfu i fyny yn rhan o deulu parhaol a chariadus nes y byddant yn oedolion.

Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau i helpu teuluoedd i ofalu am eu plant ond, os nad yw hyn yn bosibl, mae ei Wasanaeth Mabwysiadu yn dod o hyd i deuluoedd eraill parhaol.

Yn y flwyddyn ddiwethaf (2017-18), cymeradwywyd 29 o fabwysiadwyr – mae’r rhain yn cynnwys parau priod, parau di-briod, pobl sengl a pharau o’r un rhyw – ond mae angen rhagor o fabwysiadwyr o hyd gan fod y galw am leoliadau mabwysiadu wedi cynyddu eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Does dim gwahaniaeth os oes gennych blant yn barod, os ydych yn sengl neu’n bâr, yn briod, yn ddi-briod neu mewn partneriaeth sifil, y pethau mwyaf pwysig yw eich nodweddion personol, eich gwytnwch, eich dealltwriaeth o anghenion plant a’ch gallu i ymrwymo i fod yn rhieni, yn hytrach na ffactorau megis cyflogaeth, tai neu statws priodasol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.adoptionmwwales.org.uk

Mythau ynghylch Mabwysiadu:

1. Dydw i ddim yn gallu mabwysiadu oherwydd dydw i ddim yn briod

Mae mabwysiadwyr o bob math i’w cael – pobl sengl, parau, parau o’r un rhyw.  Mae mabwysiadu’n ymwneud â bod â lle, amser ac ymrwymiad i garu ac i ofalu am blant.

2. Mae angen i mi berchen ar fy nghartref fy hun i fabwysiadu

Gallwch fabwysiadu heb fod yn berchen ar eich cartref eich hun ond bydd angen i chi allu cynnig lle a sefydlogrwydd – p’un a ydych yn denant neu’n berchen ar dŷ.

3. Rwy’n rhy hen i fabwysiadu

Mae’n rhaid i fabwysiadwyr fod yn 21 oed neu’n hŷn. Nid oes terfyn uchaf o ran oedran ac rydym yn ystyried amgylchiadau unigol pob ymgeisydd fesul achos gan gynnwys iechyd, ffordd o fyw a rhwydwaith cymorth yr ymgeisydd.

4. Dydw i ddim yn gallu mabwysiadu oherwydd mae gennyf blentyn yn barod

Gallwch. Mae gan blant gwahanol anghenion gwahanol. Mae rhai plant sy’n cael eu mabwysiadu yn cael budd mawr o’r berthynas maent yn ei chreu â phlant biolegol mabwysiadwyr ac i’r gwrthwyneb. I eraill, bydd cartref heb blant eraill yn fwy addas ar eu cyfer. Am y rheswm hwnnw, rydym angen amrywiaeth o fabwysiadwyr.

5. Does dim babanod ar gael i’w mabwysiadu

Mae’r rhan fwyaf o blant sydd angen teuluoedd mabwysiadol rhwng 2 a 5 oed. Fodd bynnag, weithiau mae arnom angen mabwysiadwyr ar gyfer plant ifanc iawn.

, , , ,
Similar Posts
Latest Posts from Llanelli Online

Leave a Reply