GWAHODDWYD Theatr na nÓg, o Gastell-nedd, i gymryd ei sioe gerdd lwyddiannus Eye of The Storm at gynulleidfaoedd yn Hong Kong ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Enillodd Eye of the Storm y Sioe Orau i Bobl Ifanc yng Ngwobrau Theatr Cymru 2018. Lleolwyd y sioe yn y Cymoedd ac mae’n adrodd hanes Emmie, gofalwr ifanc, sy’n dyfeisio tornado artiffisial i greu ynni adnewyddadwy. Mae’r sioe yn cynnwys trac sain a grëwyd gan Amy Wadge, y cyfansoddwr toreithiog a thalentog ac sy’n fwyaf adnabyddus am ei chân Thinking Out Loud (a gyd-ysgrifennodd ag Ed Sheeran ac a enillodd iddi Wobr Grammy).

Ar ben hynny, enillodd Wobr BAFTA am ei cherddoriaeth ar gyfer y gyfres deledu Keeping Faith.

Cafodd y sioe ei llwyfannu am saith wythnos yn Theatr Dylan Thomas, Abertawe, ac yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, pryd  y cafodd ei pherfformio i dros 5500 o bobl ifanc ac oedolion gan dderbyn adolygiadau brwd iawn.

Yn sgil hynny, dewiswyd Eye of the Storm i ymddangos yng Ngŵyl SPARK Hong Kong, i ddathlu “Gwyddoniaeth a Chelfyddyd Creadigrwydd”. Yr Ŵyl SPARK yw Gŵyl Syniadau cyntaf y Cyngor Prydeinig  a chaiff ei chynnal yn fuan ar ôl i’r Cyngor ddathlu’i 70 mlwyddiant yn Hong Kong eleni.

Hon yw’r drydedd mewn cyfres o deithiau rhyngwladol a wnaed gan y gwneuthurwyr theatr anturus a Chymreig hyn, yn dilyn perfformiadau o You Should Ask Wallace yn Singapore a Rio de Janeiro.

Meddai Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg:
“Mae cymryd rhywbeth sy’n hanu o’r Cymoedd a’i gyflwyno i gynulleidfaoedd ledled y byd, yn gwireddu breuddwyd. Rwy’i wrth fy modd dros y cwmni ac yn falch iawn o chwifio’r faner dros Theatr Cymru.”

Bydd Eye of the Storm yn cael ei berfformio yn Tai Kwun, canolfan Hong Kong ar gyfer treftadaeth a’r celfyddydau, rhwng 18 a 20 Ionawr, 2019.

Am ragor o wybodaeth, ewch at wefan yr ŵyl sef: britishcouncil.hk/spark

, , , , , , ,
Similar Posts
Latest Posts from Llanelli Online