MAE Partneriaeth Pensiwn Cymru heddiw yn cyhoeddi penodiad Link Fund Solutions Ltd (Link) i sefydlu a chynnal cyfrwng buddsoddi cyfunol at ddefnydd cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru yn unig.

Penodwyd Link yn weithredwr awdurdodedig yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn dilyn proses gaffael drylwyr gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a’i hymgynghorwyr, Hymans Robertson a Burges Salmon. Bydd hyn yn galluogi cyfuno tua £15 biliwn o asedau ar draws ystod o ddosbarthiadau ased.  Mae mandadau goddefol pob un o 8 cronfa’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru eisoes wedi’u buddsoddi ar y cyd, gan roi bod i arbedion ffi amcangyfrifedig o fwy na £2 filiwn y flwyddyn ar asedau o fwy na £3 biliwn. Mae penodiad Link yn garreg filltir arall yn y broses gyfuno, gan weithio tuag at ddyddiad targed y Llywodraeth Westminster ym mis Ebrill 2018.

Bydd Link yn sefydlu ac yn cynnal Cynllun Contractiol Awdurdodedig (cyfrwng buddsoddi cyfunol treth-effeithlon yn y DU) ar ran Partneriaeth Pensiwn Cymru. Bydd gan y Cynllun Contractiol Awdurdodedig is-gronfeydd mewn amryw o ddosbarthiadau ased a fydd yn diwallu anghenion yr awdurdodau buddsoddi, gan eu galluogi i roi eu gwahanol strategaethau dyrannu asedau ar waith. Gyda chymorth Russell Investments ac mewn ymgynghoriad â’r wyth cronfa awdurdod lleol unigol,

bydd Link yn dechrau’r broses o benodi gwmnïau rheolwyr buddsoddi tra bydd cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cadw rheolaeth lawn dros benderfyniadau dyrannu asedau strategol. Drwy ddefnyddio llai o gwmnïau rheolwr buddsoddi â mandadau mwy, disgwylir y bydd y gronfa’n rhoi bod i arbedion ffi, un o brif nodau polisi’r Llywodraeth.

Cafodd Pwyllgor Cyd-lywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ei sefydlu’n gynharach yn 2017 ac mae’n gyfrifol am oruchwylio gweithredwr y gronfa, Link, a’r gwasanaethau mae’n eu darparu i gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.

Y Cynghorydd Stephen Churchman, Cadeirydd y Pwyllgor Cyd-lywodraethu: “Ar ôl proses ddethol drwyadl, rydym yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Link fel y gweithredwr ar gyfer cronfa fuddsoddi Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer Cymru. Mae gan awdurdodau gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru hanes hir a llwyddiannus o gydweithredu.  Rydym ar y trywydd iawn i gael y gronfa’n weithredol yn gynnar yn 2018, gan ddarparu arbedion ffi pellach o ran rheolwr buddsoddi, a fydd o fudd i bob cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.”

Cyngor Sir Caerfyrddin yw’r Awdurdod Cynnal, gan gysylltu o ddydd i ddydd â’r gweithredwr, Link, ar ran holl gronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.

Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin (Awdurdod Cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru): “Mae penodi Link yn garreg filltir arwyddocaol o ran sefydlu cronfa fuddsoddi £15 biliwn ar gyfer cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.  Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Link i sicrhau bod y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru yn elwa ar gyfuno buddsoddiadau.”

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cynnwys y cronfeydd canlynol: Caerdydd a Bro Morgannwg, Dinas a Sir Abertawe, Clwyd, Dyfed, Gwent Fwyaf (Torfaen), Gwynedd, Powys, a Rhondda Cynon Taf.

, , , , , , ,
Similar Posts
Latest Posts from