GALL caeau âr sy’n cael eu gadael yn llwm dros y gaeaf lygru dyfrgyrsiau ond gall plannu cnydau gorchudd a sicrhau bod draeniau a ffosydd yn gweithio’n effeithiol helpu ffermwyr i ddiogelu eu priddoedd ac osgoi erlyniad posibl.

Yn ystod digwyddiad Cyswllt Ffermio, diweddar ar fferm Church Farm ger Rhaglan, cynghorwyd ffermwyr i fod yn rhagweithiol.

Dywed y cynghorydd ffermio manwl gywir, Ian Beecher-Jones bod sawl cam y gallai ffermwyr eu cymryd i gadw’r pridd yn y caeau a rheoli ychwanegiadau maetholion. “Y pridd yw’r peth pwysicaf ar y fferm,” mynnodd.

Mae cnydau gorchudd a heuir ar ôl cynaeafu, cyn i gnydau gwanwyn gael eu plannu, yn darparu gorchudd dros y gaeaf a hefyd yn gweithredu fel ‘pwmp dŵr’, gyda’r planhigyn yn amsugno lleithder o’r pridd ac i’r aer, lle mae’n anweddu.

Mae cnydau gorchudd yn atal maetholion gwerthfawr rhag trwytholchi o’r pridd. “Mae’n ddull ffermio modern sy’n ddiogel i’r amgylchedd,” meddai Mr Beecher-Jones. “Pan fo’r tir yn llwm, mae’r gyfradd ymdreiddiad dŵr yn is, felly bydd dŵr yn cronni ar yr wyneb.’’

Mae cnydau gorchudd hefyd yn darparu tail gwyrdd i wella strwythur a gwead y pridd.

Os bydd y cae wedi cael ei ffensio a bod modd i ddefaid bori’r cnwd, naill ai ar sail dymhorol neu ar gyfer cynhyrchiant cartref, gellir defnyddio’r incwm o’r ffynonellau hynny i dalu am gostau tyfu’r cnwd.

Bydd diffyg rheolaeth dŵr megis draeniau aneffeithiol hefyd yn arwain at golli maetholion.

“Os mae’r draeniad yn anghywir, ni fydd y cnydau’n tyfu, a cheir rhagor o ddŵr ffo,” meddai Mr Beecher-Jones.

Sefydlwyd nifer o’r draeniau yn ystod y 1970au gyda chymhorthdal grant, ond bedair degawd yn ddiweddarach, mae ambell un wedi mynd yn aneffeithiol gan olygu bod caeau’n mynd yn ddirlawn.

Mae Mr Beecher-Jones yn argymell defnyddio offer jetio i glirio unrhyw rwystrau yn y draeniau. “Mae’n gostus, ond byddwch mewn gwell sefyllfa os byddwch yn glanhau draeniau gan y bydd gennych well cae i dyfu cnydau,” meddai wrth ffermwyr yn ystod y digwyddiad Cyswllt Ffermio.

“Astudiwch hen gynlluniau draenio, cerddwch ar hyd ffosydd, crëwch ddraeniau twrch, ffosydd neu ddraeniau rhych dros dro os oes angen. Mapiwch ardaloedd sydd wedi’u difrodi i’w hadfer yn ddiweddarach yn ystod y tymor.’’

Os bydd pridd wedi’i gywasgu, ni all amsugno dŵr. Eglurodd Mr Beecher-Jones mai’r tro cyntaf i’r peiriant groesi wrth weithio ar gae penodol sy’n achosi’r niwed ac yn lleihau’r gyfradd ymdreiddiad dŵr.

“Os allwn ni gadw traffig dros y pridd ar linellau penodol, bydd ein priddoedd mewn gwell cyflwr, beth bynnag arall a wnawn” meddai.

Ar fferm Church Farm, mae’r teulu Phillips yn tyfu cnydau gaeaf yn bennaf er mwyn osgoi caeau llwm dros gyfnod y gaeaf.

Maent hefyd yn hau rhygwellt ar gaeau sofl i’w pori gan ddefaid er mwyn adeiladu ar y deunydd organig sydd ar gael yn y pridd.

Sganiwyd y caeau a’u rhoi mewn parthau yn ôl math o bridd, ac mae parthau’n cael eu profi ar gyfer maetholion pob pedair blynedd; mae potash a ffosffad yn cael eu hychwanegu ar gyfraddau amrywiol.

“Mae gennym fapiau o lefelau maetholion yn y pridd felly gwyddwn lle bo angen ychwanegu. Mewn ambell i gae, gall yr amrywiaeth mewn ychwanegu fod cymaint â 40kg yr hectar,” meddai Colin Phillips, sy’n ffermio gyda’i wraig Yvonne, ei dad, George, a’i nai, Trevor.

“Nid ydym yn defnyddio cymaint o botash a ffosffad mewn bagiau bellach gan ein bod yn gwasgaru tail dofednod. Mae’r amrywiaeth mewn dadansoddiadau rhwng llwythi’n gallu bod yn sylweddol, ac mae gennym gelloedd pwyso ar y peiriant chwalu tail er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei wasgaru ar y raddfa gywir.’’

Dywedodd Nichola Salter, Uwch Swyddog yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), bod y camau a gymerwyd gan y teulu Phillips yn enghraifft o arfer dda.

Mae CNC wedi bod yn monitro’r Afon Troddi fel rhan o raglen ymchwil a datblygu Cenedlaethol.

Mae’r Afon Troddi ar hyn o bryd yn methu â bodloni ei safonau Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr o ran ffosffad gyda’r canlyniadau cychwynnol yn dangos lefelau annerbyniol o uchel o ffosffad yn y dŵr sy’n cyfateb ac achosion o lawiad, gan gyfeirio at faetholion yn dianc o gaeau a buarthau fferm.

Dywed Ms Salter gan fod patrymau glawiad wedi newid a bod caeau’n cael eu gweithio’n galetach, mae angen i ffermwyr ail-werthuso’r modd yr oeddent yn rheoli eu gwrteithiau organig, priddoedd a dŵr.

Dywedodd bod Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, wedi bod yn allweddol er mwyn cyfathrebu cyngor i’r ffermwyr yn y modd cywir.

Dywedodd Dr Delana Davies, Swyddog Technegol Âr a Garddwriaeth gyda Cyswllt Ffermio, bod rheoli’r defnydd a wneir o faetholion a rheoli priddoedd yn rhagweithiol yn gallu lleihau’r perygl o lygredd dŵr yn sylweddol.

“Gall defnyddio gwasanaethau cynghori Cyswllt Ffermio ar gyfer cyngor rheoli maetholion ac isadeiledd helpu pob math o fferm i sicrhau’r arfer amgylcheddol orau gan gynnig manteision ariannol i’r busnes yn ogystal,” meddai.

, , , , ,
Similar Posts
Latest Posts from Llanelli Online