MAE Gestamp Tallent Ltd o Lanelli, cwmni gweithgynhyrchu yn y maes moduro, yn dathlu ar ôl cael ei enwi yn Gyflogwr Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) y Flwyddyn yng Nghymru.
Mae buddsoddi mewn hyfforddiant ac yn datblygiad y gweithlu wedi talu ar ei ganfed i’r cwmni, a gasglodd y wobr nodedig mewn seremoni a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Exchange, Caerdydd, i gyd-fynd â Diwrnod VQ.
Mae’r wobr yn canolbwyntio ar gyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud gwir gyfraniad tuag at wella sgiliau a chystadleurwydd cenedlaethol.
Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ColegauCymru a Cymwysterau Cymru sy’n trefnu Gwobrau VQ, a’r nod yw gwobrwyo unigolion a sefydliadau am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.
Meddai Stacey Davies, rheolwraig Adnoddau Dynol Gestamp Tallent: “Rydyn ni wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gweddnewid yr hyfforddiant a’r cyfleoedd datblygu yn y ffatri. Mae ennill y wobr hon yn golygu llawer inni, oherwydd mae’n dangos ein bod ni’n symud yn y cyfeiriad cywir.
“Rydyn ni’n gweithio i sefydliad sy’n parhau i fuddsoddi yn y ffatri a’i phobl, ac rydyn ni’n falch o chwifio’r faner dros fusnes yng Nghymru.”
Ychwanegodd Victoria Adams, cydlynydd hyfforddiant y cwmni: “Rydyn ni wrth ein boddau o fod wedi ennill y wobr. Mae’n golygu bod yr holl waith caled wedi talu’i ffordd. Mae hyrwyddo ein pobl a rhoi’r adnoddau iddyn nhw wneud eu gwaith yn ganolog i bopeth a wnawn ni.”
Ers prynu’r gwaith yn Llanelli yn 2011, mae Gestamp wedi gweddnewid sefyllfa’r busnes drwy fuddsoddi yn y ffatri a’r bobl sy’n gweithio yno. Mae’r cwmni yn gyflenwr o bwys i gwsmeriaid yn y maes moduro, gan gynnwys Jaguar Land Rover, Bentley a Honda.
Mae pobl yn ganolog i strategaeth fusnes Gestamp, ac un o’i egwyddorion corfforaethol yw mai “pobl yw penseiri llwyddiant”. Mae hynny’n sicr yn wir yn y ffatri hon.
Mae rhaglen datblygu talent Gestamp, sy’n rhaglen benodol i asesu sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiad drwy arfarniadau, ochr yn ochr â disgrifiadau swyddi manylach, yn creu cynlluniau datblygu unigol a phwrpasol ar gyfer pob un o’r 428 o weithwyr yn Llanelli.
Mae gan y gwmni agwedd hollgynhwysol ar gyfer rhoi cyfleoedd datblygu ffurfiol a chymwysterau i’w weithwyr.
“Mae ein busnes yn rhoi lle blaenllaw i ennill cymwysterau galwedigaethol a rhoi hyfforddiant,” meddai Victoria. “Mae hyrwyddo datblygiad personol a phroffesiynol y staff yn ein galluogi i gyflawni amcanion eraill ein busnes.
“Nid oes pall ar ein hymrwymiad i sicrhau bod ein gweithwyr yn ennill cymwysterau – ac mae pawb o lawr y siop i lefel y bwrdd yn rhan o hynny.”
Yn y flwyddyn ddiwethaf, dechreuodd 20% o’r gweithlu ddilyn rhaglenni galwedigaethol, o beirianneg fecanyddol i weldio a hyfforddi, yn ogystal â rhaglenni gwella ansawdd a hyfforddi’r hyfforddwr.
Law yn llaw â’r rhaglenni technegol, mae’r rhaglenni Arwain a Rheoli, Datblygu Arweinwyr a Photensial Mawr yr un mor bwysig, a’r rheini’n helpu arweinwyr ar bob lefel yn y busnes, gan greu cynlluniau olynu strategol.
O brentisiaethau i gymwysterau israddedig a chymwysterau cydymffurfio, mae Coleg Sir Gâr wedi helpu’r cwmni. Enillodd un o’i brentisiaid fedal aur mewn Electroneg Ddiwydiannol yng nghystadleuaeth WorldSkills UK.
Mae cyfraddau trosiant y staff yn isel, gyda 16 o weithwyr wedi gwasanaethu am 40 mlynedd y llynedd.
“Mae brwdfrydedd y sefydliad dros gymwysterau i’w ganmol yn fawr,” meddai Caroline Newman, pennaeth cynorthwyol Coleg Sir Gâr, a roddodd glod hefyd i gysylltiadau Gestamp gydag ysgolion.
Mae cymwysterau galwedigaethol yn bwysig i’r economi, i gwmnïau ac i unigolion, gan eu bod yn darparu’r gweithwyr hyfforddedig a thalentog y mae busnesau mor awyddus i’w cael, a chan eu bod hefyd yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau i lwyddo yn y byd addysg a’r byd gwaith.
Cafodd Gestamp Tallent Ltd ei longyfarch gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. “Mae gwobr VQ yn arwydd o ymroddiad i broffesiwn penodol, ac yn dangos i bobl eraill eich bod wedi gwir ymrwymo i ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol.
“Mae’r gwobrau yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr, dysgwyr a hyfforddwyr yng Nghymru sydd eisoes yn cymryd camau ychwanegol i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.”
Llywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop sy’n ariannu’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.
More Stories
£4m i helpu pobl â chostau tanwydd sy’n cynyddu’n ddiddiwedd
Syniadau i wahardd gwerthu diodydd egni i rai dan 16 oed
Sir Gaerfyrddin yn cynnal ras gyffrous Taith Merched Prydain