Mae digwyddiadau cyhoeddus yn cael eu cynnal i ddiweddaru cleifion ar y gwasanaethau newydd ym Meddygfa Minafon.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r feddygfa wedi trefnu cyfarfodydd yn ardaloedd y feddygfa er mwyn rhoi cyfle i gleifion i ddysgu mwy am y ddarpariaeth newydd o wasanaeth ac i ofyn unrhyw gwestiynau.

Dros y misoedd diwethaf, er y bu heriau sylweddol o ran y gweithlu, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cyd-weithio’n agos â chleifion a chynrychiolwyr y Cyngor yn lleol er mwyn sicrhau darpariaeth barhaus o wasanaethau i’r gymuned leol.

Dywed Rachel Pompa, Pennaeth Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol: “Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at fynd allan i’r gymuned i hysbysu’r cleifion o’r gwaith sy’n digwydd, er mwyn ateb unrhyw gwestiynau ac i wrando ar unrhyw adborth a syniadau.”

Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal fel â ganlyn:

Dydd Mawrth 21 Mawrth 2017 2pm tan 4pm yng Ngwesty a Spa Three Rivers, Y Graig, Bwyty Poachers, Glanyfferi SA17 5TU
Dydd Mawrth 21 Mawrth 2017 6pm tan 8pm yng Nghanolfan Hamdden Trimsaran, Heol Llanelli, Trimsaran SA17 4AA
Dydd Iau 23 Mawrth 2017 6pm tan 8pm yng Nghlwb Rygbi Cydweli, Ffordd yr Orsaf, Cydweli, SA17 4UH
Dywed Jill Patterson, Cyfarwyddwr Gweithredol dros dro Comisiynu, Gofal Sylfaenol, Therapïau a Gwyddorau Iechyd: “Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth barhaus ein cleifion a’r gymuned, ac yn parhau’n ymroddedig i gynnal safon uchel y gofal ym Meddygfa Minafon ar hyn o bryd. Bydd Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn parhau i gael eu darparu yn yr ardal hon, ac os oes gennych unrhyw bryderon neu adborth am eu profiad y byddent yn hoffi eu rhannu gyda’r Bwrdd Iechyd, dewch i’r cyfarfodydd, siaradwch â staff y feddygfa neu cysylltwch â Gwasanaeth Cymorth i Gleifion Hywel Dda ar 0300 0200 159.”

—————————————————————————

Public events are being held to update patients about the new services implemented at Minafon Surgery.

Hywel Dda University Health Board and the Practice have organised meetings in each practice area to give patients an opportunity to ask any questions.

Over the past months whilst there have been significant workforce challenges, the Health Board has worked closely with patients and local Council representatives to ensure continued provision of services to the local community Head of General Medical Services Rachel Pompa said: “We are really looking forward to coming back out to the Community to inform patients about the work that has been underway, to answer any questions and to listen to any feedback and ideas.”

The events are being held as follows:

Tuesday 21st March 2017 2pm until 4pm at Three Rivers Hotel and Spa, The Graig, Poachers Restaurant, Ferryside SA17 5TU
Tuesday 21st March 2017 6pm until 8pm at Trimsaran Leisure Centre, Heol Llanelli, Trimsaran, SA17 4AA
Thursday 23rd March 2017 6pm until 8pm at Kidwelly Rugby Club, Station Road, Kidwelly, SA17 4UH
Interim Executive Director of Commissioning, Primary Care, Therapies and Health Sciences Jill Paterson said: “We appreciate the continuing support given by the Community and patients and we remain committed to maintaining the high standards of care currently provided at Minafon Surgery. General Medical Services will continue to be provided in this area and if anyone has any concerns or feedback about their experience which they would like to share with the Health Board, , please come along to the meetings, speak to the Practice staff or contact Hywel Dda Patient Support Services on 0300 0200 159.”

Similar Posts
Latest Posts from