GALL Cyswllt Ffermio gefnogi ffermwyr a choedwigwyr ym mhob agwedd arianol o reoli coetiroedd sy’n cynhyrchu elw, pa run ai ydyn nhw’n ystyried sefydlu coetir, rheoli coetir neu gyda diddordeb mewn datblygu eu busnes coetir.

Dyma’r neges a gyflwynwyd i arbenigwyr coetiroedd mewn dau seminar a gynhaliwyd yn Garwnant, Merthyr Tudful a Choed-y-Brenin, Dolgellau yn ddiweddar wrth i’r prosiect gan Lywodraeth Cymru gyflwyno’r pecyn cymorth o ddewisiadau i dros 140 o fynychwyr.

Dywedodd Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth ar gyfer Cyswllt Ffermio: “Rydym ni’n awyddus i rannu gwybodaeth, dysgu gan arbenigwyr o fewn y sector coedwigaeth yng Nghymru a rhoi cyfle i’r rhai sy’n mynychu i ddysgu mwy am sut y gallwn ni chwarae ein rhan ni. Un elfen o’r prosiect yw hyrwyddo planhigfa, rheoli coetiroedd a chyflwyno manteision amgylcheddol i dirwedd wledig Cymru.

“Mae Cyswllt Ffermio yn anelu at gynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb o fewn y sector coedwigaeth yng Nghymru, felly rydym ni’n awyddus i gysylltu ag unigolion a busnesau bach sy’n gweithio o fewn y dwydiant. Mae Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yn cynnig cyngor arbenigol, annibynnol, cyfrinachol a phwrpasol, felly rydym ni’n annog pobl i gysylltu â ni.”

Dywedodd John Browne, Uwch-gynghorydd Coedwigaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym ni’n awyddus i weld mwy o goetiroedd yn cael eu rheoli yng Nghymru gan gynyddu eu gwerth i’n cymunedau, i’r economi a’r amgylchedd rydym ni’n byw ynddi, felly rydym ni’n cyflwyno cynlluniau rheoli coedwigoedd tymor hir fydd yn darparu cynlluniau sy’n gliriach ac yn fwy cynhwysfawr ar gyfer rheoli ardaloedd o goetir.”

Mae clirio coedwigoedd yn hanesyddol wedi bod yn broblem yn y DU ers dechrau’r ugeinfed ganrif pan gyflwynodd y Llywodraeth newidiadau. Erbyn hyn yng Nghymru, mae coetiroedd yn cyfrif am 15% o’r tir ond mae tua 40% o’r coetir yna yn cael eu tan-reoli neu ddim yn cael eu rheoli o gwbl.

Dywedwyd wrth fynychwyr yn y ddau seminar y byddai cynlluniau rheoli coetir yn cael eu cyflwyno cyn bo hir, ac er y bydd yna ddewis i gael caniatâd i gwympo coed gyda thrwydded cwympo coed tymor byr, bydd dewis y cynllun tymor hir yn ein helpu i hybu ein coetiroedd a phlannu rhai newydd.

Mae’r cynlluniau rheoli coedwigoedd yn seiliedig ar hunan werthusiad cychwynnol a fydd yn ei wneud yn fwy eglur i bawb ac yn lleihau’r amser y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei dreulio ar asesu cynlluniau. Mae’r proffesiynoldeb cynyddol hyn yn bwysig nid yn unig er mwyn galluogi unigolion a busnesau i ddarparu gwasanaeth gwell i’w cwsmeriaid ond bydd hefyd yn lleihau’r costau fydd ar bobl cyn hir wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru ddechrau codi tâl am gyngor dewisol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau mawr ar gyfer plannu coetiroedd newydd. Yn ogystal â darparu Asesiad Sgrinio Amgylcheddol wrth greu cynlluniau, bydd hefyd angen cynnwys ystyriaethau tirwedd. Bydd hyn yn enwedig o berthnasol gan y bydd angen creu rhai coetiroedd newydd sylweddol er mwyn cwrdd â thargedau Llywodraeth Cymru.

Mae meysydd eraill fydd o help i greu mwy o goetiroedd newydd a dwyn mwy o goetiroedd o dan reolaeth yn cynnwys mwy o raglenni grant coetiroedd a datblygiadau pellach i gyfleoedd Glastir. Mae’n bwysig dwyn mwy o goetiroedd fferm o dan reolaeth ac ehangu ffrydiau cynhyrchu incwm y coetiroedd hynny sydd eisoes yn cael eu rheoli i feysydd heblaw coed, fel anifeiliaid hela a gweithgareddau adloniannol coetir. Bydd hyrwyddo cyfleoedd a chefnogi dulliau o reoli coetiroedd llai o faint a llai o werth, yn ogystal â chynyddu’r cyflenwad o gynnyrch tanwydd coed, yn enwedig i’w ddefnyddio fferm, yn gam cadarnhaol ymlaen.

“Mae ffermwyr a pherchnogion coetir yn gymwys ar gyfer cefnogaeth gan raglen Cyswllt Ffermio,” eglurodd Geraint Jones.

“Os ydych chi’n ffermio lleiafswm o 3 hectar o dir, yn gweithio ar fferm neu o fewn y sector coedwigaeth am 550 awr y flwyddyn neu’n berchen ar leiafswm o 0.5 hectar o goetir, rydych chi’n cymwys am gefnogaeth. Gallwn ni ddarparu ystod o gyngor annibynnol a chyfrinachol sydd wedi’i ariannu naill ai’n rhannol neu’n llawn.

“Trwy weithio gyda sefydliadau proffesiynol, rydym ni’n medru cynnig cefnogaeth un i un ar greu cynlluniau rheoli coetir neu eich cynorthwyo chi, fel unigolyn neu grŵp, gydag unrhyw gyngor arbenigol pellach sydd ei angen arnoch.”

Am fwy o wybodaeth ar gefnogaeth Cyswllt Ffermio, ewch i

www.llyw.cymru/cyswlltffermio

, , , , ,
Similar Posts
Latest Posts from Llanelli Online